Yn y gyfres hon o bedwar cyfweliad, byddwch yn gwylio defnyddiwr
gwasanaeth, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol a rheolwr gwaith
cymdeithasol yn siarad am eu profiadau gwahanol. Bydd y cyfweliadau'n dangos pwysigrwydd gwrando ar storïau pobl, pwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol a phwysigrwydd cyd-destun yr ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn ystyried cwestiynau am y cyfweliadau ac yn myfyrio ar oblygiadau'r hyn sydd gan yr unigolion i'w ddweud ar gyfer
ymarfer.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
meddwl am effaith bywgraffiadau ar fywydau personol
ystyried rôl cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol
ystyried pwysigrwydd y cyd-destun mewn ymarfer gwaith cymdeithasol