Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Awdur: Alan Llwyd

Hedd Wyn: y modd y cafodd bywyd un o feirdd mwyaf addawol Cymru ei dorri’n fyr gan y rhyfel byd cyntaf

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2024

Ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele, collodd Cymru un o’i beirdd mwyaf dawnus, sef Hedd Wyn.

Find out more about The Open University's History courses and qualifications.

Bydd yr enwau ‘Passchendaele’, y ‘Somme’ a ‘Mametz Wood’ yn cael eu cysylltu am byth â chyflafan annirnad y rhyfel byd cyntaf. Lladdwyd bron i 500,000 o ddynion o fewn tri mis yn Passchendaele, trydedd frwydr Ypres. Ar ddiwrnod cyntaf y frwydr, collodd Cymru un o’i beirdd mwyaf talentog.

Ganed Ellis Humphrey Evans ar 13 Ionawr 1887. Ef oedd plentyn hynaf Mary ac Evan Evans ac roedd yn un o blith 11 o frodyr a chwiorydd. Ei enw barddol oedd Hedd Wyn. Roedd y teulu’n byw ac yn gweithio ar fferm anghysbell ar gyrion Trawsfynydd yng ngogledd-orllewin Cymru, sef Yr Ysgwrn.

Pan oedd Hedd Wyn yn 11 oed, prynodd Evan Evans lyfr iddo yn sôn am y mesurau caeth a’r gynghanedd. Darllenodd Hedd Wyn y llyfr gydag awch ac angerdd, a chyn bo hir llwyddodd i feistroli rheolau anodd a chymhleth y gynghanedd.

Cyfansoddodd ei englyn cyntaf erioed (hynny yw, cerdd gynganeddol â phedair llinell) cyn ei ben-blwydd yn 12 oed. Yn fuan wedyn, dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau lleol, sef gwyliau diwylliannol a gynhelir yng Nghymru i arddangos ymdrechion llenyddol ac artistig.

Treuliodd Hedd Wyn y rhan fwyaf o’i oes fer yn ei gartref. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd. Gellir dweud bod ei addysg braidd yn ysbeidiol a byddai’n absennol o’r ysgol yn fynych ar dywydd garw, gan fod cryn bellter rhwng yr ysgol a’i gartref.

Ffermwr a bugail di-lun oedd Hedd Wyn, ond roedd wrth ei fodd yn gofalu am y defaid ar y mynydd gan fod yr unigedd a’r tawelwch yn rhoi cyfle iddo fyfyrio a barddoni.


Historic black and white image of Hedd Wyn Roedd Hedd Wyn yn 30 oed pan gafodd ei ladd.

Consgripsiwn

Ac yna, daeth y rhyfel. Cafodd tynged Hedd Wyn, a miloedd o ddynion eraill, ei selio pan basiodd y senedd y Ddeddf Gwasanaeth Milwrol ym 1916. Cyflwynodd y ddeddfwriaeth newydd hon orfodaeth filwrol a châi ei hanelu at ddynion dibriod neu wŷr gweddw.

Doedd gan Hedd Wyn ddim dewis – bu’n rhaid iddo ymrestru. Ymunodd â 15fed bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac erbyn 1917, roedd yn gwasanaethu yn Fléchin, sef pentref bach yng ngogledd Ffrainc.

Y bwriad oedd y byddai ef a miloedd o filwyr eraill yn cymryd rhan yn un o brif frwydrau’r rhyfel, sef trydedd frwydr Ypres, a elwir hefyd yn Frwydr Passchendaele. Byddai milwyr Prydain yn meddiannu pentref Pilkem a Chefn Pilkem, yn ogystal â’r corstiroedd i’r dwyrain o Ypres, cyn symud ymlaen i gyfeiriad Langemarck. Cipio pentref Pilkem a Chefn Pilkem, a dal gafael ar y ddau safle, oedd un o brif amcanion y rhyfelgyrch aruthrol hwn.

Yn ystod brwydro ffyrnig ar Gefn Iron Cross ar 31 Gorffennaf, cafodd Hedd Wyn ei anafu’n angheuol.


Yr Eisteddfod Genedlaethol

I feirdd Cymru, uchafbwynt eu gyrfa farddol yw ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol – sef gŵyl flynyddol sy’n dathlu’r celfyddydau, iaith a diwylliant. Caiff y gadair ei dyfarnu i enillydd cystadleuaeth yr awdl – sef cerdd yn y mesur caeth. Dyfernir y goron i enillydd cystadleuaeth y gerdd rydd.


Hedd Wyn's headstone at Artillery Wood. Ar ôl cyflwyno deiseb i’r Comisiwn Ymerodrol Beddi Rhyfel wedi i’r rhyfel ddod i ben, ychwanegwyd y geiriau canlynol at ei garreg fedd ym mynwent Artillery Wood: Y Prifardd Hedd Wyn.

Caiff y seremonïau eu harwain gan yr archdderwydd, sy’n darllen sylwadau’r beirniaid cyn cyhoeddi ffugenw’r bardd buddugol. Does neb yn gwybod pwy yw’r bardd hyd nes y bydd yr archdderwydd yn gofyn iddo sefyll.

Cyn ymrestru, dechreuodd Hedd Wyn gyfansoddi awdl ar gyfer cystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917. Oherwydd y rhyfel, cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Lloegr y flwyddyn honno – ym Mhenbedw ger Lerpwl. Bu ond y dim i Hedd Wyn ennill y gadair yn yr eisteddfod flaenorol yn Aberystwyth.

Tra’r oedd yn gwasanaethu yn Ffrainc, gorffennodd Hedd Wyn ei awdl, a oedd yn dwyn y teitl Yr Arwr. Postiodd ei gerdd i Benbedw dan y ffugenw ‘Fleur-de-lis’. Bu’n gweithio ar y gerdd tan y funud olaf.

Yn gynnar ym mis Medi y flwyddyn honno, daeth criw mawr o bobl ynghyd i wylio seremoni’r cadeirio ym Mhenbedw. Roedd y prif weinidog ar y pryd, sef David Lloyd George, yn eu plith, ac yntau’n siaradwr Cymraeg. Heb wybod ei fod wedi marw o’i anafiadau sawl wythnos yn gynharach, roedd y beirniaid yn unfryd unfarn y dylid dyfarnu’r gadair i Hedd Wyn.

Yn unol â’r drefn, bloeddiodd yr archdderwydd y ffugenw ‘Fleur-de-lis’ deirgwaith. Ond ni chododd neb ar ei draed. Yna, cyhoeddwyd yn llawn dwyster bod y bardd wedi cael ei ladd yn y rhyfel chwe wythnos yn gynharach. Taenwyd lliain du dros y gadair o flaen cynulleidfa emosiynol. O’r herwydd, gelwir eisteddfod 1917 yn Eisteddfod y Gadair Ddu.


Gwaddol Hedd Wyn

Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddwyd cyfrol o gerddi Hedd Wyn, sef Cerddi’r Bugail. Gwerthwyd y 1,000 copi cyntaf o fewn pum diwrnod. Yn y pen draw, gwerthwyd 4,000 copi o’r argraffiad cyntaf.

Ym 1923, dadorchuddiwyd cerflun o Hedd Wyn gan ei fam yn Nhrawsfynydd. Penderfynodd yr artist L. S. Merrifield ddarlunio Hedd Wyn fel bugail.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2012, cyhoeddoddCarwyn Jones, prif weinidog Cymru ar y pryd, fod cartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, wedi cael ei brynu er budd y genedl, er mwyn diogelu gwaddol y bardd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd Yr Ysgwrn ei adnewyddu gan Barc Cenedlaethol Eryri a’i droi’n amgueddfa.

Roedd Hedd Wyn yn fardd hynod dalentog a ysgrifennai gerddi godidog. Mae’r englyn a ysgrifennodd er cof am ei gyfaill, yr Is-gapten D. O. Evans o Flaenau Ffestiniog, bellach yn farwnad i’r holl ddynion ifanc a gollodd eu bywydau ar faes y gad yn y Rhyfel Mawr: 

 Ei aberth nid â heibio – ei wyneb 

 Annwyl nid â'n ango 

 Er i'r Almaen ystaenio 

 Ei dwrn dur yn ei waed o.

Ynglŷn â’r erthygl hon

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Alan Llwyd, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Ailgyhoeddir yr erthygl hon ar sail erthygl yn The Conversation dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.



 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?