
Bydd plant ym mhob cwr o Gymru wedi’u gwisgo fel gwrachod neu ysbrydion ar Hydref 31, yn mynd o ddrws i ddrws, gan weiddi “cast ynteu ceiniog”/“trick or treat”, yn y gobaith o dderbyn losin. Mewn geiriau eraill, bydd yr olygfa’n debyg iawn i honno a welir ar adeg Halloween yng ngweddill y DU.
Ar bosteri sy’n hysbysebu digwyddiadau Halloween yng Nghymru, y cyfieithiad Cymraeg o’r gair Halloween yw Nos Galan Gaeaf. Cwyn gyffredin a geir yw bod arferion traddodiadol yr adeg hon o’r flwyddyn yn cael eu bwrw i’r cysgod gan ddigwyddiad mwy a mwy homogenaidd, ac wedi’i fasnacheiddio, sydd wedi’i fewnforio o’r Unol Daleithiau.
Ond sut fyddai’r Cymry wedi dathlu Nos Galan Gaeaf mewn canrifoedd a fu? Beth yw ei darddiad? Ac ydy’r cysylltiad cynhenid rhyngddo â Halloween yn rhywbeth sydd wedi bodoli erioed?
Dathliadau Hydref 31
Mae Halloween yn tarddu o AD609 neu AD610, pan gafodd y Pantheon yn Rhufain ei droi’n fan addoli Cristnogol, a chafodd ei chysegru i’r Forwyn Fair a’r holl ferthyron gan y Pab Boniffas IV, a orchmynnodd ddathliad blynyddol.
Yn yr wythfed ganrif, pennwyd dyddiad y dathliad ym Masilica Sant Pedr ar Dachwedd 1. Ar ddechrau’r nawfed ganrif, fe aeth Gregori IV ati i ymestyn hyn i’r eglwys gyfan.
Galwyd y dathliad hwn yn Saesneg yn “All Hallows Day”, ac felly’r noswyl yw Halloween. Mae’n eithaf tebygol bod rhyw fath o ŵyl dymhorol yn cael ei chynnal eisoes ar y dyddiad hwn, ac y trosglwyddwyd rhai o nodweddion yr ŵyl i Halloween.
Mae’r gair calan wedi’i fenthyca o’r gair Lladin calends, sy’n golygu “diwrnod cyntaf y mis”.Honiad cyffredin yw bod Halloween o darddiad Celtaidd yn y bôn. Mae’n wir y byddai lleoedd Gaeleg eu hiaith (Iwerddon, ardaloedd Gaelaidd yr Alban, ac Ynys Manaw) yn y cyfnod hwn yn dathlu gŵyl o’r enw Samhain, y ceir sawl cyfeiriad ati yn llenyddiaeth Wyddelig yr Oesoedd Canol Cynnar. Y darlun a gyflëwyd oedd ei fod yn gyfnod llawn ddigwyddiadau annaearol ac ymweliadau arallfydol.
Caiff yr enw Samhain ei gamynganu’n aml fel “Sam Hain”, gan rai nad ydynt yn siarad Gaeleg. Ond, mewn gwirionedd, mae’r ynganiad Gwyddelig modern yn debycach i “sow won” (gyda’r gair ‘sow’ yn cael ei ynganu yn y cyd-destun hwn fel y gair Saesneg am ‘hwch’ yn y Gymraeg).
Fodd bynnag, er bod y Gymraeg hefyd yn iaith Geltaidd, nid oes unrhyw dystiolaeth o ddathlu’r Samhain yng Nghymru – felly, mae’n ddigon posib mai arferiad Gaelaidd ydyw, hyn hytrach na Cheltaidd. Mae’r honiad a wneir yn aml ei fod yn dynodi cychwyn y flwyddyn Geltaidd yn deillio o dybiaethau mytholegwyr cymharol.
Yn sicr, tydi’r enw Nos Galan Gaeaf ddim yn tarddu o gyfnod cynhanesyddol o undod ieithyddol Celtaidd. Mae’r gair ‘calan’ wedi’i fenthyca o’r gair Lladin calends, sy’n golygu “diwrnod cyntaf y mis”.
Felly, gallwn feddwl amdano fel “calends y gaeaf”, neu “ddiwrnod cyntaf y gaeaf”. Roedd ‘calan’ yn un o gannoedd o eiriau a fenthycwyd o’r Lladin ac a ddaeth yn rhan o’r Frythoneg, sef rhagflaenydd y Gymraeg, yn ystod y cyfnod yr oedd Prydain yn rhan o’r Ymerodraeth Rufeinig.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw dras Geltaidd i un elfen o’r enw. ‘Calan Gaeaf’ ar ei ben ei hun yw Tachwedd 1, ond ‘Nos Galan Gaeaf’ (sef “noson calends y gaeaf”), yw’r noson gynt.
Gan gyfeirio at y Galiaid Celtaidd eu hiaith (a oedd yn byw yn Ffrainc a Gwlad Belg fel y’i gelwir heddiw), dywedodd Iŵl Cesar, o’u rhan nhw, bod y diwrnod yn cychwyn y noson gynt. Gwelir hyn mewn Gwyddeleg ganoloesol, lle mae’r term aidche Lúain yn golygu “y noson cyn dydd Llun” – sef yr hyn y byddem yn ei alw’n nos Sul. Ond dim ond ffosil ieithyddol yw hwn, ac nid yw’n profi unrhyw beth ynghylch hynafiaeth Nos Galan Gaeaf.
Er enghraifft, ceir cyfeiriadau canoloesol ato mewn barddoniaeth o Lyfr Du Caerfyrddin, sef casgliad o gerddi a llawysgrifau cynnar Cymreig. Sonnir am Galan Gaeaf hefyd yn y cyfreithiau Cymreig cynnar, a nodwyd mewn llawysgrifau o’r 13eg ganrif, ond cyfeiriadau anniddorol iawn yw’r rheiny’n anffodus.
A dim ond yn y cyfnod modern y ceir cyfeiriadau at arferion Nos Galan Gaeaf, a gafodd eu catalogio’n drylwyr yn yr 20fed ganrif gan yr hanesydd, Trefor M. Owen.
Gwyliwch rhag yr Hwch Ddu Gwta a’r Ladi Wen lechwraidd. Coed hynafol Tŷ Canol, Sir Benfro
Arferion Arswydus
Roedd y modd yr oedd pobl yn dathlu yn amrywio cryn dipyn o ardal i ardal. Roedd sawl un o’r arferion, fel dowcio am afalau, ac amryw fathau o ddewiniaeth i ganfod pwy oedd am briodi pwy, yn bell o fod yn unigryw i Gymru. Er hynny, mae rhai ohonynt yn cynnwys elfennau annisgwyl, dieithr.
Yn ne Cymru, byddai criwiau o bobl ifanc yn ysbeilio o ddrws i ddrws, fel y rheiny sy’n gofyn am gast neu geiniog heddiw. Ym Morgannwg, byddai bechgyn yn gwisgo dillad merched. Ond roedd gwrachod Powys yn llawer mwy bygythiol. Dynion oedd y rhain a fyddai’n crwydro o gwmpas mewn parau, a’r rheiny wedi’u gwisgo fel hen wŷr a hen wragedd, neu mewn criwiau a oedd wedi’u gwisgo mewn crwyn defaid a mygydau, a’r rheiny’n yfed yn drwm ac yn mynnu anrhegion.
Roedd goleuo coelcerth yn rhywbeth nodedig hefyd. Yn agos i’r tân, byddai pobl yn ddiogel rhag ysbrydion crwydrol, ond gallai dychwelyd adref fod yn llawn peryglon. Byddai’r Hwch Ddu Gwta yn llechu yn y tywyllwch, yng nghwmni’r ‘Ladi Wen heb ddim pen’.
Os ydych eisiau cael eich gweld yng nghanol yr holl fymis a fampirod ar Hydref 31 eleni, fyddai gwisgo fel un o’r cymeriadau arswydus hyn ddim yn syniad drwg o gwbl.
Ynglŷn â’r erthygl hon
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Simon Rodway, Darlithydd mewn Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.
Cafodd yr erthygl hon ei hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon