Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored.
Yn Eisteddfod y Fenni yn 1837, cynigiwyd gwobr am ‘The best collection of original unpublished Welsh airs, with the words as sung by the peasantry of Wales’. Fe'i henillwyd gan Maria Jane Williams, gyda chasgliad a gyhoeddwyd yn 1844 fel Ancient and National Airs of Gwent and Morganwg. Nid oes unrhyw beth dadleuol yn hyn o beth, gallech feddwl, ond mewn gwirionedd roedd yn bwysig am sawl rheswm.
Hyd hynny, roedd casgliadau o ‘gerddoriaeth draddodiadol’ Gymraeg wedi'u targedu at farchnad Saesneg ffasiynol, gan gyflwyno'r alawon ar eu pen eu hunain neu roi geiriau Saesneg iddynt. Roedd eu cyflwyno gyda'u geiriau Cymraeg gwreiddiol yn tanlinellu pwysigrwydd diwylliant pobl gyffredin Cymru, sef y werin.
Torrodd y llyfr dir newydd hefyd fel yr enghraifft gyhoeddedig gyntaf o ganeuon traddodiadol Cymraeg a gasglwyd ‘yn y maes’ gan gantorion brodorol byw a oedd wedi'u dysgu drwy'r glust: roedd Maria Jane wedi casglu ei chaneuon gan ‘an old woman in the Glamorganshire hills now 70 years old, but still having a good voice - she learned them of her mother, who lived to 95 and so traced them back for centuries transmitted orally, never written down.’
Tudalen deitl Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844). Noder y cyflwyniad i'r Frenhines Fictoria. (Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Rhaid dweud, petai Maria Jane Williams wedi cael dewis, y byddai ei chasgliad, mewn gwirionedd, wedi cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol, naill ai fel yr alawon ar eu pen eu hunain neu gyda geiriau Saesneg, gyda golwg ar y farchnad Saesneg a chylch cymdeithasol Cymru Llundain lle roedd yn ffigwr adnabyddus. Roedd yn awyddus i'w ffrind, Arglwyddes Llanofer, a oedd â chysylltiadau da, gael caniatâd brenhinol i gyflwyno'r llyfr i'r Frenhines Fictoria (rhywbeth a wnaeth Arglwyddes Llanofer).
Fodd bynnag, nid oedd Arglwyddes Llanofer yn cytuno â'i chymhellion yn llwyr, gan nodi'n llym, ‘I know well the class Miss W. is most anxious to please in London’; a hi oedd wedi mynnu (roedd yn fenyw a oedd yn codi ofn ar eraill) fod y cyhoeddiad, yn y pen draw, yn cyflwyno'r alawon gyda'u geiriau Cymraeg.
Chwith: Arglwyddes Llanofer (a baentiwyd yn 1862 gan
Mornewicke), yn gwisgo'r wisg ‘draddodiadol’ Gymreig y mae fwyaf adnabyddus
amdani. (Llun: Amgueddfa Cymru) Dde: Llun o Maria Jane Williams a dynnwyd yn ddiweddarach yn ei bywyd. (Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Felly, pam roedd Arglwyddes Llanofer mor awyddus i lynu wrth ysbryd y wobr a chadw'r geiriau Cymraeg i'r caneuon? A hithau'n Saesnes o deulu a oedd yn berchen ar dir yn Sir Fynwy ac yn wraig i Benjamin Hall AS, tirfeddianwyr a diwydiannwr yn Ne Cymru, ar yr olwg gyntaf efallai nad hi oedd yr unigolyn mwyaf amlwg i ddangos diddordeb yn niwylliant gwerin Cymru.
Roedd yr eisteddfodau yn cael eu cefnogi gan dirfeddianwyr, diwydianwyr a gwleidyddion pwysig de-ddwyrain Cymru, yr oedd llawer ohonynt wedi'u geni yn Lloegr fel Arglwyddes Llanofer. I'r dosbarth hwn nid oedd diddordeb yn nhraddodiadau diwylliannol Cymru a'r Gymraeg er ei fwyn ei hun ac nid oedd yn arwydd o ‘genedlaetholdeb’ fel y byddem yn meddwl amdano heddiw: yn hytrach, roeddent yn ystyried ei fod yn meithrin ymdeimlad o'r hyn roeddent yn ei alw'n ‘genedligrwydd’ ymhlith y bobl gyffredin, sef ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn seiliedig ar y Gymraeg a thraddodiadau diwylliannol Cymru.
Un o eisteddfodau'r Fenni (1845) – mae gorymdaith yr eisteddfod yn mynd heibio i du blaen Gwesty'r Angel. (Llun: © Illustrated London News Ltd. Cedwir pob hawl.)
Y gred oedd y byddai'r fath ymdeimlad ymhlith pobl Cymru yn fodd i ddiogelu rhag protestio a radicaliaeth. Ys dywedodd Arglwyddes Llanofer, roedd y Gymraeg yn ‘firm and hitherto impenetrable barrier… to the progress of sedition and infidelity’.
Fodd bynnag, efallai y byddem yn cael ein temtio i ystyried bod hyn oll yn freuddwyd gwrach. Wedi'r cyfan, roedd hwn yn gyfnod o gryn gythrwfl yn ne Cymru. Roedd y Teirw Scotch, sef cymdeithas gudd a oedd yn cosbi torwyr streic ac yn ymosod ar eiddo cwmnïau, yn weithredol yn Sir Fynwy; digwyddodd Terfysg Merthyr yn 1831 ychydig ar ôl i frawd Maria Jane roi'r gorau i'w swydd fel siryf Sir Forgannwg; a bu diweddglo treisgar i Wrthryfel y Siartwyr nid nepell i ffwrdd yng Nghasnewydd yn 1839. Os oeddech yn unigolyn ag awdurdod, yn dirfeddiannwr ac, yn arbennig, yn gyflogwr gweithwyr diwydiannol, roedd gennych reswm da dros fod yn nerfus.
Llun cyfoes wedi'i orliwio o un o gyfarfodydd y Siartwyr, sy'n pwysleisio ymdeimlad o ddrama a thrais posibl.
Felly, nid oedd neb yn fwy ymwybodol o'r cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol na theulu Llanofer, y teulu Williams a'u tebyg ac mae'r ffaith honno yn rhoi cyd-destun diddorol a mwy cymhleth i'w diddordeb yn niwylliant traddodiadol Cymru nag sy'n ymddangos ar yr wyneb.
Nid oedd eu hawydd i ddiogelu caneuon traddodiadol yn iaith pobl Cymru i'w briodoli i werth cerddorol a diwylliannol cynhenid y caneuon hynny (er eu bod yn eu gwerthfawrogi o'r safbwynt hwn yn ddiau); roedd yn rhan o ymdrech i fynd i'r afael â'r don gyfoes o radicaliaeth a phrotest drwy bortreadu Cymru mewn goleuni calonogol fel cenedl gytûn, yn llythrennol ac yn ffigurol.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon