Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored.
‘There are many things you can say about a Welshman,’ a ysgrifennodd Milton Shulman ac yntau'n adolygu'r ffilm Valley of Song yn 1953, ‘but never be rude about his larynx.’ Mae'r côr meibion yn un o symbolau unigryw hunaniaeth Gymreig, a bortreadir yn gartwnaidd yn aml fel dynion oedrannus gwelw di-fynd yn gwisgo blasers. Ceir mwy nag 80 o gorau meibion yng Nghymru heddiw ac nid ydynt yn mynd yn addfwyn i'r noson dda honno; maent yma i aros.
Mae côr meibion wedi'i rannu'n bedair rhan, sef: dwy adran o denoriaid a dwy adran isaf, baritonwyr a baswyr. Er mwyn canu rhan tenor, dywedir bod angen llais ffalseto arnoch ac, er mwyn canu rhan baswr, dywedir bod angen dannedd dodi arnoch. Y naill ffordd neu'r llall, mae corau meibion naill ai'n canu nerth eu pennau neu'n ddistaw iawn, gyda chyferbyniadau dynamig eang rhwng cytganau operatig byddarol, trefniannau cadarn o alawon cenedlaethol, caneuon serch dolefus fel yr anfarwol ‘Myfanwy’, ac emynau ysbrydoledig â'u huchafbwyntiau ‘Amen’ gwefreiddiol sy'n rhan annatod o draddodiad diwylliannol Cymru. Bydd y rhain bob amser yn ennyn emosiynau'r gwrandäwr mwyaf digyffro hyd yn oed.
Mae'r cyhoedd, yn gywir ddigon, yn cysylltu'r côr meibion yng Nghymru a hanes diwydiannol Cymru. Gellir olrhain ei darddiad i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymhen fawr o dro, sicrhaodd ensembles a oedd yn cynnwys dynion yn unig, a ddechreuodd fel cangen i gorau cymysg, eu presenoldeb annibynnol eu hunain, gan amrywio o ran maint o bartïon 'glee' yn cynnwys ugain o ddynion i ffalancsau mawr yn cynnwys mwy na chant. Rydym yn cael ein hatgoffa o'r hyn a ddywedodd Aneurin Bevan unwaith, sef 'culture comes off the end of a pick'. Gan mlynedd yn ôl nid oedd prinder ceibiau pan oedd chwarter miliwn o lowyr yn cael eu cyflogi yn ne Cymru a phorthladdoedd fel Caerdydd a'r Barri yn gwneud Môr Hafren yr un mor bwysig yn economaidd ag yw Gwlff Oman heddiw. Ac nid dim ond maes glo De Cymru a gyfrannodd ei wead cyfoethog at y tapestri corawl hwn. Er i lwch glo gynhyrchu tenoriaid uchaf soniarus nodedig De Cymru, honnir mai i'w chwareli llechi y gall baswyr taranol gogledd Cymru ddiolch am eu cyseiniant cymaradwy.
Diwydiant oedd y ffactor hollbwysig: er bod chwarelwyr Bethesda a Blaenau Ffestiniog yn un ochr i'r geiniog, ar yr ochr arall cynhyrchodd pyllau glo'r Rhondda ei chorau enwog, Pendyrus a Threorci, ac yng ngorllewin Cymru cyfrannodd metel tawdd wedi'i arllwys gweithfeydd metelegol ardal Abertawe at y tonau tyner rydym yn eu cysylltu â Dyfnant ac Orffews Treforys; ar hyd ymyl ogleddol dwyrain Morgannwg a Gwent, mae corau trefi cynhyrchu dur Dowlais, Rhymni, Tredegar a Blaenafon, sy'n dal i fodoli, yn ein hatgoffa o ddiwydiant didrugaredd a esgorodd, serch hynny, ar weithlu a gafodd gysur pwerus mewn cerddoriaeth a brawdoliaeth canu.
I ddechrau, mudwyr o ardaloedd gwledig Cymru oedd y rhan fwyaf o'r miloedd o unigolion a oedd wedi llifo i'r cymoedd yn ceisio gwaith, a ddaeth â'u diwylliant, eu hiaith, eu crefydd anghydffurfiol a'u hoffter o ganu mewn harmoni. Roeddent yn aml yn ddynion sengl a gymerodd lety, ar ôl iddynt gyrraedd, lle y rhoddwyd yr ystafell ger y drws ffrynt iddynt. Ar ôl y gwaith, byddent yn mynd drwyddi yn chwilio am hamdden, adloniant a chwmni dynion ifanc yn debyg iddyn nhw, gan fod mwy o ddynion na merched yn ystod y blynyddoedd cynnar sy'n esbonio llawer o'r diwylliant gwrywaidd sy'n dal i nodweddu'r cymoedd hyd yn oed heddiw.
Meithrinodd diwydiant trwm falchder mewn sgiliau llaw a theyrngarwch dwys ymhlith ei weithwyr i'w ‘butties’, eu pentrefi a'u cymoedd a'r sefydliadau cyfun a oedd yn eu cynrychioli ac yn cael eu cefnogaeth ddiwyro: yr undeb, y gyfrinfa, sefydliad y glowyr, y tîm pêl-droed, y band a'r côr – yn arbennig y côr. Roedd yn ddatganiad o fondio a hunaniaeth wrywaidd ddosbarth gweithiol a fynegwyd drwy'r offeryn cerdd mwyaf democrataidd a rhad hwnnw, sef y llais dynol.
Pan ddaeth rhai corau i ben, yn anochel, oherwydd caledi economaidd difrifol, cymerodd eraill eu lle, fel Cwmbach o Gwm Cynon a ffurfiwyd yn 1921 a Phendyrus yn 1924. Mae'r ddau, fel côr henach Treorci (1885), yn dal i fodoli heddiw er bod 80% o'r 150 o aelodau o gôr Pendyrus yn ddi-waith yng nghanol y Dirwasgiad rhwng y ddau ryfel byd. Gwnaethant droi at gwmnïaeth y côr er mwyn ymdopi â'r adfyd roeddent yn ei wynebu ac, er na fyddai'r Brenin Glo byth yn adennill ei orsedd, mae ei waddol corawl yn parhau.
Mae apêl boblogaidd corau meibion yng Nghymru yno o hyd er bod y gorlanw diwydiannol a esgorodd arnynt bellach wedi treio am byth. P'un a ydynt yn cael eu clywed yn y neuadd goffa leol, ar lwyfan cystadleuol eisteddfod, mewn awditoria mawr fel Canolfan y Mileniwm neu Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain neu Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd, ar ddisg neu ar DVD, i lawer maent yn parhau i fod yn ffocws i hunaniaeth a balchder cenedlaethol pobl ac yn fynegiant ohonynt.
Yr awdur
Mae'r Athro Gareth Williams yn un o haneswyr cymdeithasol blaenllaw Cymru Ac yntau'n awdur a darlledwr adnabyddus sydd wedi cyhoeddi cryn dipyn ar hanes diwylliant poblogaidd yng Nghymru, mae'n Athro Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru ac yn aelod o un o gorau enwocaf Cymru, sef Pendyrus.
I ddarllen mwy am hanes cymhellol corau meibion yng Nghymru, mae ei lyfr Do You Hear the People Sing? The Male Voice Choirs of Wales ar gael nawr.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon