Sesiwn 1: Gweithio gyda rhifau
Cyflwyniad
Mae dealltwriaeth o rifau’n rhoi ichi’r sgiliau sylfaenol mae arnoch eu hangen i ymdrin â llawer iawn o fywyd pob dydd. Yn y sesiwn hwn, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio pob un o’r pedwar gweithrediad mathemategol a sut maen nhw’n berthnasol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Yna byddwch yn dod ar draws ffracsiynau a chanrannau, sy’n hynod o ddefnyddiol pan fyddwch yn ceisio gweithio allan pris eitem sydd ar gynnig arbennig. Hefyd, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio cymarebau - sy’n ddefnyddiol os ydych yn pobi - a sut i weithio gyda fformiwlâu.
Drwy gydol y cwrs, bydd amrywiaeth o weithgareddau ichi eu cwblhau er mwyn gwirio’ch sgiliau. Nodir atebion y gweithgareddau, ynghyd ag awgrym o waith cyfrifo. Mae’n bwysig gwybod bod, yn aml, lawer o ffyrdd o weithio allan yr un cyfrifiad. Mae’n hollol iawn os byddwch yn cyrraedd yr un ateb, ond bod eich gwaith cyfrifo yn wahanol i’r hyn a ddangosir. Os oes angen ichi atgoffa’ch hun o’r dulliau ysgrifenedig ar gyfer adio, tynnu, lluosi a rhannu, ewch i’r adran â’r rhif perthnasol yn Mathemateg Pob dydd 1.
Os hoffech ymarfer eich sgiliau mathemategol ymhellach, cysylltwch â’ch coleg lleol i drafod yr opsiynau sydd ar gael.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:
- defnyddio’r pedwar gweithrediad i ddatrys problemau yn eu cyd-destun
- deall talgrynnu ac edrych ar wahanol ffyrdd o wneud hyn
- ysgrifennu rhifau mawr yn llawn ac mewn ffurfiau cryno
- gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr
- gwneud cyfrifiadau aml-gam
- datrys problemau sy’n cynnwys rhifau negatif
- diffinio rhai termau mathemategol allweddol (lluosrif, lluosrif cyffredin lleiaf, ffactor, ffactor cyffredin a rhif cysefin)
- adnabod lluosrifau cyffredin lleiaf a ffactorau
- defnyddio ffracsiynau, degolion a chanrannau, a throsi rhyngddyn nhw
- datrys gwahanol fathau o broblemau cymhareb
- amnewid gwerthoedd mewn fformiwlâu a roddir er mwyn datrys problemau
- defnyddio gweithrediadau gwrthdro ac amcangyfrifon i wirio’ch cyfrifiadau.

Transcript
[MAE CERDDORIAETH YN CHWARAE]
ADRODDWR: Hyd yn oed gyda rhywbeth mor sylfaenol â siopa am fwyd, gall datblygu’ch gwybodaeth am rifau fod o fudd gwirioneddol, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am fargen. Fel, dysgu pryd i dalgrynnu rhif i fyny neu i lawr i helpu i weithio allan amcangyfrif bras o’r hyn mae angen ichi ei brynu. A gall deall pethau fel canrannau eich helpu i gadw golwg ar ba fargeinion yn union sy’n cael eu cynnig. A lle mae cyfle i arbed arian.
Os ydych chi’n defnyddio cerdyn credyd, bydd deall cyfraddau llog yn eich helpu i wybod faint mae’n costio i’w ddefnyddio. Ac wrth goginio, bydd mynd i’r afael â fformiwlâu yn eich helpu wrth weithio allan amser coginio. Neu gyfrifo faint o arian sydd ar gael gennych, rhag ofn y bydd argyfwng.