Sesiwn 4: Trin data
Cyflwyniad
Mae data’n rhan fawr o’n bywydau a gellir eu cynrychioli mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Bydd y sesiwn hwn yn mynd â chi trwy nifer o’r cynrychioliadau hyn ac yn dangos ichi sut i ddehongli data i ganfod gwybodaeth benodol. Cyn ymhél â byd siartiau, graffiau a chyfartaleddau, mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y ddau fath gwahanol o ddata:
Data ansoddol – data nad yw’n rhifol e.e. lliw llygaid, hoff chwaraeon, modelau o geir.
Data meintiol – data rhifol sy’n perthyn i bethau y gellir eu cyfrif neu fesur e.e. tymereddau, prisiau tai, graddau TGAU. Gall data meintiol fod yn arwahanol neu’n ddi-dor.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:
- adnabod gwahanol fathau o ddata
- creu a defnyddio siartiau cyfrif, tablau amlder a thaflenni casglu data i gofnodi gwybodaeth
- lluniadu a dehongli siartiau bar, siartiau cylch a graffiau llinell
- deall bod gwahanol fathau o gyfartaledd a gallu cyfrifo pob math
- deall bod tebygolrwydd yn ymwneud â pha mor debyg yw hi y bydd digwyddiad yn digwydd, a’r ffyrdd gwahanol o fynegi hyn.
Transcript
[MAE CERDDORIAETH YN CHWARAE]
ADRODDWR: Rydym ni i gyd yn defnyddio ac yn cynhyrchu data pob dydd. Er enghraifft, mae cwmnïau’n defnyddio data i dracio ein siopa a chynnig bargeinion inni. Mae data wedi dod yn bwysig iawn.
Mae llawer o fathau gwahanol o data. Mae data di-dor yn rhywbeth rydych yn ei fesur, fel hyd darn o bren.. Mae bocs o hoelion fel arfer yn rhywbeth y gallwch ei gyfrif, a elwir data arwahanol.
Mae ffyrdd gwahanol o ddangos data yn cynnwys defnyddio graffiau. Gall graff llinell ddangos y berthynas rhwng data ynghylch silff. Gall siart cylch ddangos y ffyrdd mae rhywun yn treulio ei amser, sy’n hawdd ei gweld a’i deall fel darlun.
Gall casglu data helpu i weithio allan mathau gwahanol o gyfartaledd – fel yr amrediad, sef y gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd isaf ac uchaf. Neu'r canolrif sef, yn y bôn, y canol.
Gellir hyd yn oed defnyddio data i weithio allan tebygolrwydd – pa mor debygol neu annhebygol yw rhywbeth o ddigwydd, a all eich helpu i osgoi syrpreis cas.
[MAE GWYDR YN MALU]
[CHWERTHIN]