Sesiwn 2: Unedau mesur
Cyflwyniad
Yn y sesiwn hwn byddwch yn cyfrifo gan ddefnyddio unedau mesur ac yn canolbwyntio ar hyd, amser, pwysau, cynhwysedd ac arian. Byddwch eisoes yn defnyddio’r sgiliau hyn yn eich bywyd bob dydd wrth:
- weithio allan pa drên mae angen ichi ei ddal er mwyn cyrraedd eich cyfarfod yn brydlon
- pwyso neu fesur cynhwysion wrth goginio
- trosi symiau’n fras mewn gwlad dramor er mwyn gweithio allan faint mae’ch pryd bwyd yn costio mewn punnoedd Prydeinig.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn byddwch yn gallu:
- deall bod yna unedau gwahanol sy’n cael eu defnyddio i fesur a sut i ddewis yr uned briodol
- trosi rhwng mesuriadau yn yr un system (e.e. gramau a chilogramau) a’r rheiny mewn systemau gwahanol (e.e. litrau a galwyni)
- defnyddio cyfraddau cyfnewid i drosi mathau o arian cyfred
- gweithio gydag amser ac amserlenni
- gweithio allan cyflymder cyfartalog taith gan ddefnyddio fformiwla
- trosi mesuriadau tymheredd rhwng Celsius (°C) a Fahrenheit (°F)
- darllen graddfeydd ar gyfarpar mesur.
Yn gyntaf gwyliwch y fideo isod sy’n cyflwyno unedau mesur.

Transcript
[MAE CERDDORIAETH YN CHWARAE]
ADRODDWR: Uned mesur yw’r uned rydych chi’n ei defnyddio i fesur rhywbeth, boed pwysau, amser, cyfaint neu ddim ond mesur maint rhywbeth. Gall gwybod yr uned briodol i’w defnyddio mewn unrhyw sefyllfa fod yn bwysig iawn. A gall osgoi rhai gwallau sylfaenol.
Gall dysgu trosi rhwng unedau mesur gwahanol fod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Gallai gwybod sut i bwyso’ch bagiau’n gywir arbed arian ichi, hyd yn oed. A gall deall y berthynas rhwng unedau mesur, fel cyflymder a phellter, fod yn hanfodol os ydych chi’n cynllunio taith ac yn methu fforddio gwastraffu amser. Ond er bod deall unedau mesur yn sgil defnyddiol iawn, nid yw’n gallu helpu ym mhob sefyllfa.