Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Dehongli atebion wrth rannu

Ar ôl gwneud cyfrifiad rhannu, efallai na fydd gennych ateb sy’n addas.

Er enghraifft, pe baech chi mewn bwyty ac angen rhannu bil £126.49 rhwng pedwar o bobl, yn gyntaf byddech yn cyfrifo’r rhaniad £126.49 ÷ 4 = £31.6225. Yn amlwg, ni allwch dalu’r union swm hwn, felly byddem yn ei dalgrynnu i £31.63 er mwyn sicrhau y caiff y bil cyfan ei dalu.

Mewn sefyllfaoedd eraill, mae’n bosibl y bydd angen ichi dalgrynnu ateb i lawr. Pe baech chi’n torri hyd o bren 2 m (200 cm) o hyd yn ddarnau llai 35 cm o hyd, byddech yn gwneud y cyfrifiad 200 ÷ 35 i gychwyn. Byddai hyn yn rhoi’r ateb 5.714... Gan mai dim ond 5 darn o bren 35 cm o hyd y gallwch eu torri, mae angen ichi dalgrynnu’ch ateb sef 5.714 i lawr i 5 yn syml.

Noder: Nod o’r enw ‘elipsis’ yw’r tri atalnod llawn a ddefnyddir yn yr ateb uchod (5.714...). Mewn mathemateg, caiff ei ddefnyddio i gynrychioli rhifau degol cylchol, fel nad oes rhaid ichi eu dangos nhw i gyd.

Gweithgaredd 4: Dehongli atebion

Cyfrifwch yr atebion i’r cwestiynau canlynol. Penderfynwch a oes angen talgrynnu’r atebion i fyny neu i lawr ar ôl cyfrifo’r swm rhannu.

  1. Caiff afalau eu pacio i focsys o 52. Mae angen pacio 1500 o afalau. Faint o focsys mae eu hangen?

  2. Mae 1000 g o flawd mewn sach. Mae angen 150 g o flawd ar gyfer pob swp o deisennau. Faint o sypiau allwch chi eu gwneud?

  3. Caiff plentyn £2.50 o arian poced yr wythnos. Mae eisiau prynu gêm i’r cyfrifiadur sy’n costio £39.99. Faint o wythnosau fydd angen iddo gynilo er mwyn prynu’r gêm?

  4. Mae hyd o bibell copr yn mesur 180 cm. Faint o ddarnau llai yn mesur 40 cm yr un y gellir eu torri o’r bibell?

Ateb

  1. 1500 ÷ 52 = 28.846 rhaid talgrynnu hwn i fyny i 29 o focsys.

  2. 1000 ÷ 150 = 6.666 rhaid talgrynnu hwn i lawr i 6 swp.

  3. £39.99 ÷ £2.50 = 15.996 rhaid talgrynnu hwn i fyny i 16 o wythnosau.

  4. 180 ÷ 40 = 4.5 rhaid talgrynnu hwn i lawr i 4 darn.