12 Gwirio’ch atebion
Gweithrediad gwrthdro yw’r gweithrediad ffordd arall. Mewn ffordd, mae’n ‘dadwneud’ y gweithrediad a gyflawnwyd. Dewch inni edrych ar ddwy enghraifft syml i ddechrau.
Enghraifft: Gwirio’ch gwaith cyfrifo 1
6 + 10 = 16
Dull
Gan eich bod wedi gwneud swm adio, y gweithrediad gwrthdro yw tynnu. I wirio’r cyfrifiad hwn, gallwch naill ai wneud:
16 − 10 = 6
neu
16 − 6 = 10
Byddwch yn sylwi bod yr un tri rhif (6, 10 ac 16) wedi cael eu defnyddio yn yr holl gyfrifiadau.
Enghraifft 2: Gwirio’ch gwaith cyfrifo 2
5 × 3 = 15
Dull
Y tro hwn, gan eich bod wedi gwneud swm lluosi, y gweithrediad gwrthdro yw rhannu. I wirio’r cyfrifiad hwn, gallwch naill ai wneud:
15 ÷ 5 = 3
neu
15 ÷ 3 = 5
Eto, byddwch yn sylwi bod yr un tri rhif (3, 5 a 15) wedi cael eu defnyddio yn yr holl gyfrifiadau.
Os ydych wedi gwneud cyfrifiad mwy cymhleth, sy’n cynnwys mwy nag un cam, rydych yn ‘dadwneud’ pob cam.
Enghraifft: Gwirio’ch gwaith cyfrifo 3
Mae disgownt o 15% ar got sy’n costio £40. Faint ydych chi’n talu?
Dull
Yn gyntaf, rydym yn canfod 15% o £40:
40 ÷ 100 × 15 = £6 o ddisgownt
£40 − £6 = £34 i dalu
I wirio’r cyfrifiad hwn, yn gyntaf byddech yn gwirio’r swm tynnu trwy wneud yr adio:
£34 + £6 = £40
I wirio’r cyfrifiad canrannol, yna rydych yn gwneud:
£6 ÷ 15 × 100 = £40
Cofiwch, weithiau gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ddefnyddio amcangyfrif i wirio’ch atebion, yn enwedig wrth ddefnyddio degolion neu rifau mawr.
Rydych yn awr wedi cwblhau adran rhifau’r cwrs. Cyn symud ymlaen at y sesiwn nesaf, ‘Unedau mesur’, cwblhewch y cwis ar y dudalen nesaf i wirio’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
- dysgu bod gan bob un o’r pedwar gweithrediad weithrediad gwrthdro (i’r gwrthwyneb) ac y gellir defnyddio’r rhain i wirio’ch atebion
- gweld enghreifftiau sy’n dangos sut i wirio atebion trwy ddefnyddio’r gweithrediad gwrthdro.