2 Ymdrin â rhifau mawr
Mae’n bwysig gallu gwneud cyfrifiadau gyda rhifau o unrhyw faint. Gellir ysgrifennu rhifau mawr mewn gwahanol ffyrdd e.e.
1 200 000 (un miliwn, dau gan mil) neu gellir ei ysgrifennu fel 1.2 miliwn.
Dyma enghraifft arall:
4 250 000 000 (pedwar biliwn, dau gant a phum deg miliwn) yw 4.25 biliwn.
Yn aml, mae’n haws ymdrin â rhifau mawr iawn pan maen nhw wedi’u hysgrifennu fel degolion.
Sylwch fod y pwynt degol wedi’i roi ar ôl y miliynau neu filiynau cyfan.
Awgrym: Mil miliwn yw biliwn.
Gall defnyddio grid gwerth lle eich helpu i ddarllen rhifau mawr, gan ei fod yn grwpio’r digidau ichi, gan ei gwneud yn haws darllen y rhif cyfan.
Sylwch sut caiff y rhifau uchod eu hysgrifennu yn y grid gwerth lle hwn.
HighlightedBiliynau | Miliynau | HighlightedMiloedd | |||||||
HighlightedBiliynau | Cannoedd o filiynau | Degau o filiynau | Miliynau | HighlightedCannoedd o filoedd | HighlightedDegau o filoedd | HighlightedMiloedd | Cannoedd | Degau | Unedau |
Highlighted |
1 | Highlighted
2 | Highlighted
0 | Highlighted
0 |
0 |
0 |
0 | ||
Highlighted
4 |
2 |
5 |
0 | Highlighted
0 | Highlighted
0 | Highlighted
0 |
0 |
0 |
0 |
Weithiau wrth ymdrin â rhifau mawr, mae’n synhwyrol i’w talgrynnu. Er enghraifft, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi mai nifer y bobl sy’n ddi-waith yn y Deyrnas Unedig ym mis Chwefror 2019 yw 1.36 miliwn. Ni fydd 1 360 000 o bobl yn union yn ddi-waith, ond trwy dalgrynnu’r gwerth union a’i ysgrifennu fel 1.36 miliwn, mae’n haws i’w ddeall.
Gweithgaredd 6: Talgrynnu rhifau mawr
Mae’r tabl canlynol yn rhoi poblogaeth gwledydd.
Talgrynnwch bob poblogaeth i’r miliwn agosaf ac ysgrifennu’r ffigur yn ei ffurf gryno, gan ddefnyddio degolion lle bo angen.
Gwlad | Poblogaeth |
Y Deyrnas Unedig | 66 959 016 |
Tsieina | 1 420 062 022 |
Ateb
Gwlad | Poblogaeth | Poblogaeth wedi’i thalgrynnu | Ffurf gryno |
Y Deyrnas Unedig | 66 959 016 | Highlighted67 000 000 | Highlighted67 miliwn |
Tsieina | 1 420 062 022 | Highlighted1 420 000 000 | Highlighted1.42 biliwn |