7 Ffracsiynau
Byddwch wedi arfer â gweld ffracsiynau yn eich bywyd pob dydd, yn enwedig pan rydych chi allan yn siopa neu’n chwilio ar y rhyngrwyd am y bargeinion gorau. Mae’n ddefnyddiol iawn gallu gweithio allan faint y byddwch yn ei dalu os yw eitem ar sêl neu os yw bargen mewn archfarchnad wir yn fargen!
Mae sawl elfen wahanol ynghlwm wrth weithio gyda ffracsiynau. Yn gyntaf, byddwch yn edrych ar symleiddio ffracsiynau.