Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.1 Cyfrifo canran o swm

Dull 1

Mae canrannau’n ffracsiynau lle mae’n rhaid i’r rhif ar waelod y ffracsiwn fod yn 100. Pe baech chi eisiau canfod 15% o 80, er enghraifft, byddech yn gweithio allan 15 divided by 100 o 80, a gallwch wneud hynny eisoes!

Mae gweithio allan canran o swm yn gofyn am ddull tebyg i’r un a ddefnyddir i ganfod ffracsiwn swm. Edrychwch ar yr enghreifftiau isod er mwyn codi’ch hyder.

Enghraifft 1: Canfod 17% o 80

Dull

17% o 80 = 17 divided by 100 o 80, felly rydym yn gwneud:

80 ÷ 100 = 0.8

0.8 × 17 = 13.6

Ffordd arall o feddwl am y dull hwn yw eich bod yn rhannu â 100 i ganfod 1% yn gyntaf, ac yna’n lluosi â pha bynnag canran rydych eisiau ei chanfod.

Fel arall, gallech luosi’r gwerth â’r rhif top yn gyntaf ac yna rhannu â 100:

17 × 80 = 1360

1360 ÷ 100 = 13.6

Yr un fydd yr ateb.

Enghraifft 2: Canfod 3% o £52.24

Dull

3% o 52.24 = three divided by 100 o 52.24, felly rydym yn gwneud:

52.24 ÷ 100 = 0.5224.

0.5224 × 3 = £1.5672 (£ 1.57 i ddau le degol)

Neu

52.24 × 3 = 156.72

156.72 ÷ 100 = £1.5672 (£1.57 i ddau le degol)

Mae hwn yn ddull da os ydych eisiau gallu gweithio allan pob canran yn yr un ffordd. Gellir ei ddefnyddio gyda neu heb gyfrifiannell. Mae gan lawer o gyfrifianellau fotwm canran, ond mae cyfrifianellau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol felly mae angen ichi ymgyfarwyddo â sut i ddefnyddio’r botwm % ar eich cyfrifiannell chi.

Dull 2

I ddefnyddio’r dull hwn, y cyfan mae angen ichi allu ei wneud yw gweithio allan 10% ac 1% o swm. Yna gallwch weithio allan unrhyw ganran arall o’r rhain.

Dewch inni atgoffa’n hunain sut i ganfod 10% ac 1%.

10%

I ganfod 10% o swm, rhannwch â 10:

10% o £765 = 765 ÷ 10 = £76.50

10% o £34.50 = 34.50 ÷ 10 = £3.45

Awgrym: cofiwch symud y pwynt degol un lle i’r chwith i rannu â 10.

1%

I ganfod 1% o swm, rhannwch â 100:

1% o £765 = 765 ÷ 100 = £7.65

1% o £34.50 = 34.50 ÷ 100 = £0.345 (£0.35 i ddau le degol)

Awgrym: cofiwch symud y pwynt degol dau le i’r chwith i rannu â 100.

Pan fyddwch yn gwybod sut i weithio allan 10% ac 1%, gallwch weithio allan unrhyw ganran arall.

Enghraifft 1: Canfod 24% o 60

Canfyddwch 10% yn gyntaf:

60 ÷ 10 = 6

10% = 6

Mae 20% yn 2 waith 10% felly:

6 × 2 = 12

20% = 12

Nawr canfyddwch 1%:

60 ÷ 100 = 0.6

Mae 4% yn 4 gwaith 1% felly:

0.6 × 4 = 2.4

4% = 2.4

Nawr adiwch y 20% a’r 4% at ei gilydd:

12 + 2.4 = 14.4

Enghraifft 2: Canfod 17.5% o £328

Gellir torri 17.5% i lawr i 10% + 5% + 2.5%, felly mae angen ichi weithio allan y canrannau hyn ac yna eu hadio at ei gilydd.

Canfyddwch 10% yn gyntaf:

328 ÷ 10 = 32.8

10% = 32.8

5% yw hanner y 10% felly:

32.8 ÷ 2 = 16.4

5% = 16.4

2.5% yw hanner y 5% felly:

16.4 ÷ 2 = 8.2

2.5% = 8.2

Nawr adiwch y ffigurau 10%, 5% a 2.5% at ei gilydd:

32.8 + 16.4 + 8.2 = £57.40

Mae hwn yn ddull da i’w wneud mewn camau pan nad oes gennych gyfrifiannell.

Noder: Mae yna rai ffyrdd cyflym eraill o weithio allan rhai canrannau penodol:

50% – rhannwch y swm â dau.

25% – hanerwch a hanerwch eto.

Gellir defnyddio’r ffeithiau cyflym hyn mewn cyfuniad â dull 2 i wneud cyfrifiadau, e.e. gellid gweithio allan 60% trwy ganfod 50%, 10% ac yna adio’r 2 ffigur at ei gilydd. Mae angen ichi edrych am y ffordd hawsaf o rannu’r ganran er mwyn gwneud y cyfrifiad.

Gweithgaredd 17: Canfod canrannau o symiau

Defnyddiwch y dull(iau) sydd orau gennych i gyfrifo’r atebion i’r canlynol:

  1. Canfyddwch:

    • a.45% o £125

    • b.15% o 455 m

    • c.52% o £677

    • d.16% o £24.50

    • e.2one divided by two% o 4000 kg

    • f.82% o £7.25

    • g.37one divided by two% o £95

  2. Mae Banc y Cambria yn talu llog o 3.5%. Beth yw’r llog ar £3000?

  3. Mae Yswiriant Sicr yn cynnig 30% o fonws am beidio gwneud unrhyw hawliadau. Faint fyddech chi’n arbed ar bremiwm o £345.50?

  4. Mae Asiantaeth Deithio Heulwen yn codi 1.5% o gomisiwn ar gyfnewid arian tramor. Beth yw’r gost am newid £871?

Ateb

  1.  

    • a.£56.25

    • b.68.25 m

    • c.£352.04

    • d.£3.92

    • e.100 kg

    • f.£5.945 (£5.95 i ddau le degol)

    • g.£35.625 (£35.63 i ddau le degol)

  2. £105

  3. £103.65

  4. £13.065 (£13.07 i ddau le degol)

Fel gyda ffracsiynau, yn aml bydd angen ichi allu gweithio allan pris eitem ar ôl iddo gael ei godi neu ei leihau â chanran benodol. Yr un yw’r broses â ffracsiynau: rydych yn gweithio allan canran y swm ac yna ei adio i, neu ei dynnu o’r swm gwreiddiol.

Gweithgaredd 18: Cynnydd a gostyngiad canrannol

  1. Rydych chi’n ennill £500 y mis. Rydych yn cael 5% o godiad cyflog.

    • a.Faint mae eich cyflog yn cynyddu?

    • b.Faint ydych chi’n ennill pob mis nawr?

Ateb

  1.  

    • a.£25

    • b.£525 y mis.

  1. Rydych chi’n prynu car newydd am £9500. Erbyn diwedd y flwyddyn, mae ei werth wedi gostwng 20%.

    • a.Faint mae gwerth y car wedi gostwng?

    • b.Beth yw gwerth y car nawr?

Ateb

  1.  

    • a.Mae gwerth y car wedi gostwng £1900.

    • b.Mae’r car nawr yn werth £7600.

  1. Rydych yn buddsoddi £800 mewn cyfrif cymdeithas adeiladu sy’n cynnig llog cyfradd sefydlog o 4% y flwyddyn.

    • a.Faint o log ydych chi’n ennill mewn un flwyddyn?

    • b.Faint o arian sydd yn eich cyfrif ar ddiwedd y flwyddyn?

Ateb

  1.  

    • a.enillwyd £32 o log.

    • b.mae £832 yn y cyfrif ar ddiwedd y flwyddyn.

  1. £356 oedd pris yswiriant car Julie y llynedd. Bydd hi’n talu 12% yn llai eleni. Faint fydd hi’n talu eleni?

Ateb

  1. Bydd Julie’n talu £42.72 yn llai felly bydd ei hyswiriant yn costio £313.28

  1. Hysbysebir aelodaeth sw am £135 y flwyddyn. Os yw Tracy yn talu’r ffi aelodaeth yn llawn yn hytrach nag yn fisol, mae’n cael disgownt o 6%. Faint fydd Tracy’n talu os yw hi’n talu’n llawn?

Ateb

  1. Bydd yn arbed £8.10 felly bydd hi’n talu £126.90.

  1. Cafodd amgueddfa tua 5.87 miliwn o ymwelwyr y llynedd. Disgwylir i niferoedd ymwelwyr godi 4% eleni. Faint o ymwelwyr mae’r amgueddfa yn eu disgwyl eleni?

Ateb

  1. 5.87 million = 5 870 000.

    4% o 5 870 000 = 234 800

    5 870 000 + 234 800 = 6 104 800 o bobl

Nesaf, byddwch yn edrych ar sut i fynegi rhif fel canran o un arall.