Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.2 Mynegi rhif fel canran o un arall

Weithiau mae angen ichi ysgrifennu rhif fel canran o un arall. Rydych eisoes wedi ymarfer ysgrifennu rhif fel ffracsiwn o un arall; mae hyn yn datblygu’r gwaith ychydig yn fwy.

Enghraifft 1: Pa ganran sy’n fenywod?

Mae 21 o fenywod a 14 o ddynion mewn dosbarth. Pa ganran o’r dosbarth sy’n fenywod?

I weithio hyn allan, rydych yn dechrau trwy fynegi’r rhifau fel ffracsiwn. Yna rydych yn lluosi â 100 i’w fynegi fel canran.

Y fformiwla yw:

  • s times w times m postfix times a times n times g times e postfix times a times r times n times o times m divided by c times y times f times a times n times s times w times m × 100

Yn yr achos hwn, mae 21 allan o gyfanswm o 35 o bobl yn fenywod, felly’r swm y byddem yn ei wneud yw:

  • 21 divided by 35 × 100

Mae’r llinell ffracsiwn yn llinell rhannu hefyd, felly pe baech chi’n gwneud hyn ar gyfrifiannell, byddech yn gwneud:

  • 21 ÷ 35 × 100 = 60%

Sut fyddech chi’n gweithio hyn allan heb gyfrifiannell?

Mae gwahanol ffyrdd o wneud y cyfrifiad. Dangosir dau ddull isod.

Dull 1

  • 21 multiplication times 100 divided by 35

Rydych yn dechrau trwy luosi’r rhif top yn y ffracsiwn â 100. Bydd y rhif gwaelod yn aros yr un peth:

  • equation left hand side 21 postfix times multiplication 100 divided by 35 equals right hand side 2100 divided by 35

Nawr mae angen ichi ganslo’r ffracsiwn i lawr cymaint ag sy’n bosibl:

  • 2100 divided by 35 ÷ top a gwaelod â 5 = 420 divided by seven, yna, ÷ top a gwaelod â 7 = 60 divided by one

Mae unrhyw beth dros 1 yn rhif cyfan felly’r ateb yw 60.

Felly mae 60% o’r dosbarth yn fenywod.

Noder:Wrth ddefnyddio’r dull hwn, os ydych yn canslo cymaint ag sy’n bosibl ond nad ydych yn cael ateb sy’n fwy nag 1, bydd angen ichi rannu’r rhif top â’r rhif gwaelod i weithio allan yr ateb terfynol 15 divided by four e.e. nid oes modd canslo’r ffracsiwn ymhellach, felly:

  • 15 ÷ 4 = 3.75

Dull 2

Gyda’r dull arall caiff y ffracsiwn ei fynegi fel degolyn yn gyntaf ac yna ei drosi i ganran. Mae hyn yn golygu eich bod yn lluosi â 100 ar ddiwedd y cyfrifiad.

Gwerthodd atyniad lleol 150 o docynnau ar y gŵyl banc diwethaf. Talwyd y pris llawn am 102 ohonynt. Pa ganran o’r tocynnau a werthwyd fel rhai â chonsesiwn?

Gweithiwch allan nifer y tocynnau â chonsesiwn a werthwyd:

  • 150 – 102 = 48

Ysgrifennwch nifer y tocynnau â chonsesiwn a werthwyd fel ffracsiwn o gyfanswm nifer y tocynnau a werthwyd:

  • 48 divided by 150

Canslwch eich ffracsiwn i lawr:

  • 48 divided by 150 ÷ top a gwaelod â 6 = eight divided by 25

Pan fyddwch yn methu â chanslo ymhellach, mae angen ichi rannu’r rhif top â’r rhif gwaelod i’w fynegi fel degolyn:

  • 8 ÷ 25 = 0.32

Described image
Ffigur 10 Wedi’i fynegi fel degolyn: 8 rhannu â 25

Yn olaf, lluoswch yr ateb degol â 100 i’w fynegi fel canran:

  • 0.32 × 100 = 32%

Felly gwerthwyd 32% o’r tocynnau am y pris â chonsesiwn.

Gweithgaredd 19: Mynegi rhif fel canran o un arall

Defnyddiwch y dull sydd orau gennych i gyfrifo’r atebion i’r canlynol. Rhowch atebion i ddau le degol lle bo’n briodol.

Awgrym: gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un unedau yn gyntaf.

  1. Pa ganran:

    • a.o 1 kg yw 200 g?

    • b.o awr yw 48 munud?

    • c.o £6 yw 30c?

Ateb

  1.  

    • a.1 kg = 1000 g

      200 divided by 1000 × 100 = 20%

    • b.1 awr = 60 munud

      48 divided by 60 × 100 = 80%

    • c.£1 = 100 c

      30 divided by 600 × 100 = 5%

  1. Nofiodd Betsan 50 lap o bwll nofio 25 m yn ystod sesiwn nofio i elusen. Mae milltir yn 1600 m bron. Pa ganran o filltir nofiodd Betsan?

Ateb

  1. 50 × 25 = 1250 m

    1250 divided by 1600 × 100 = 78.13% (i ddau le degol)

  1. Mae myfyriwr yn cael y canlyniadau canlynol yn ei brofion diwedd blwyddyn:

Tabl 8
 MathemategSaesnegGwyddoniaethCelf
Marc a gafwyd64147256
Cyfanswm marciau posibl802012070
  • Cyfrifwch ei farc canran ar gyfer pob pwnc.

Ateb

Mathemateg: 64 divided by 80 × 100 = 80%

  

Saesneg: 14 divided by 20 × 100 = 70%

  

Gwyddoniaeth: 72 divided by 120 × 100 = 60%

  

Celf: 56 divided by 70 × 100 = 80%

  1. Mae Siwan yn plannu blodau yn ei gwelyau blodau. Mae’n plannu 13 o flodau melyn, 18 o flodau gwyn a 9 o flodau coch. Pa ganran o’r blodau sy’n lliwiau ar wahân i wyn?

Ateb

  1. Nifer y rhai nad ydynt yn wyn = 13 + 9 = 22

    Cyfanswm nifer y blodau mae’n eu plannu = 13 + 18 + 9 = 40

    22 divided by 40 × 100 = 55%

    Bydd 55% o’r blodau yn lliwiau ar wahân i wyn.

  1. Mae cymdeithas adeiladu’n codi £84 mewn llog ar fenthyciad o £1200 dros flwyddyn. Beth yw’r llog canrannol?

Ateb

  1. 84 divided by 1200 × 100 = 7%

    7% yw’r gyfradd llog.

Nesaf byddwch yn edrych ar newid canrannol. Gall hwn fod yn ddefnyddiol ar gyfer gweithio allan canran yr elw (neu golled) neu ganfod pa ganran mae gwerth eitem wedi cynyddu neu ostwng.