8.3 Newid canrannol
Gwyliwch y fideo isod ar sut i gyfrifo newid canrannol, yna cwblhewch Weithgaredd 20.
Transcript
Byddwch eisoes yn gyfarwydd â’r cysyniad os ydych chi’n prynu car newydd, pan ewch ati i’w werthu, mae ei werth yn debyg o fod wedi lleihau. Ar y llaw arall, os ydych chi’n lwcus, pan brynwch dŷ ac yna eisiau ei werthu, mae’n bosibl y gallwch ei werthu am fwy nag a daloch amdano.
Yr enw ar y gwahaniaeth canrannol rhwng y pris gwreiddiol a’r pris gwerthu yw’r newid canrannol. Gall hwn fod yn ddefnyddiol i weithio allan canran yr elw neu'r golled, neu ganfod o ba ganran mae gwerth eitem wedi newid. Mae’n bwysig cydnabod y gall newid canrannol fod yn gadarnhaol, os yw’r pris wedi codi, neu’n negyddol, os yw gwerth yr eitem wedi lleihau.
I gyfrifo’r newid canrannol, mae angen inni ddefnyddio’r fformiwla syml: newid canrannol yn hafal i’r gwahaniaeth, wedi’i rannu â’r gwreiddiol, wedi’i luosi â 100. Mae ‘gwahaniaeth’ yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng y ddau werth. Hynny yw, y gost cynt ac wedyn. Ystyr ‘gwreiddiol’ yw gwerth gwreiddiol yr eitem.
Dewch inni ddefnyddio’r fformiwla hon mewn enghraifft. Roedd tocyn trên yn arfer costio £24. Mae’r pris wedi codi i £27.60. Sut ydym ni’n canfod y cynnydd canrannol? Yn gyntaf, mae angen ichi ganfod y gwahaniaeth yn y gost. Y gwahaniaeth = £27.60 - £24, sef £3.60.
Nesaf, rhannwch y gwahaniaeth hwn â’r gost wreiddiol, ac yna lluosi â 100. £3.60 wedi’i rhannu â £24, x 100, = 15. Mae cost y tocyn trên wedi codi 15%.
Nawr rhowch gynnig ar enghraifft arall. Prynoch chi gar am £4,500 ac rydych wedi llwyddo i’w werthu am £3,200. Beth yw’r lleihad canrannol? Dylech roi’ch ateb i ddau le degol. Y gwahaniaeth yw £4,500 - £3,200, sy’n = £1,300. Rhannwch hwn â’r gost wreiddiol sef £4,500. 1,300 wedi’i rannu â 4,500, x 100, yn hafal i ostyngiad o 28.89%. Nawr ymarferwch ddefnyddio’r fformiwla newid canrannol yn y gweithgaredd nesaf.
Gweithgaredd 20: Fformiwla newid canrannol
Dylech ymarfer defnyddio’r fformiwla newid canrannol rydych wedi dysgu amdano yn y fideo uchod ar y pedwar cwestiwn isod. Lle bo angen talgrynnu, rhowch eich ateb i ddau le degol.
Y llynedd roedd eich tocyn tymor ar gyfer y trên yn costio £1300. Eleni, mae’r gost wedi codi i £1450. Beth yw’r cynnydd canrannol?
Ateb
Gwahaniaeth: £1450 − £1300 = £150
Gwreiddiol: £1300
Newid canrannol = × 100
Newid canrannol = 0.11538... × 100 = cynnydd o 11.54% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
Prynoch chi’ch tŷ 10 mlynedd yn ôl am £155 000. Rydych yn gwerthu’ch tŷ am £180 000. Beth yw’r cynnydd canrannol ym mhris y tŷ?
Ateb
Gwahaniaeth: £180 000 − £155 000 = £25 000
Gwreiddiol: £155 000
Newid canrannol = × 100
Newid canrannol = 0.16129... × 100 = cynnydd o 16.13% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
Prynoch eich car 3 blynedd yn ôl am £4200. Rydych yn ei werthu i brynwr am £3600. Beth yw’r gostyngiad canrannol ym mhris y car?
Ateb
Gwahaniaeth: £4200 − £3600 = £600
Gwreiddiol: £4200
Newid canrannol = × 100
Newid canrannol = 0.14285... × 100 = gostyngiad o 14.29% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
Mae Stuart yn prynu car newydd am £24 650. Mae’n gwerthu’r car 1 flwyddyn yn ddiweddarach am £20 000. Beth yw’r golled ganrannol?
Ateb
Gwahaniaeth: £24 650 − £20 000 = £4650
Gwreiddiol: £24 650
Newid canrannol = × 100
4650 ÷ 24 650 × 100 = colled o 18.86% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
Llongyfarchiadau, nawr rydych yn gwybod popeth mae angen ichi ei wybod am ganrannau! Fel y gwelsoch, mae canrannau’n codi’n aml mewn llawer o feysydd gwahanol mewn bywyd. Ar ôl cwblhau’r adran hon, mae gennych y sgiliau yn awr i ymdrin â phob math o sefyllfa sy’n ymwneud â chanrannau.
Gwelsoch ar ddechrau’r adran bod canrannau’n ffracsiynau mewn gwirionedd. Mae degolion hefyd wedi’u cysylltu’n agos â ffracsiynau a chanrannau. Yn yr adran nesaf, byddwch yn gweld pa mor agos yw’r berthynas rhwng y tri chysyniad hyn ac yn dysgu sut i drosi o’r naill i’r llall.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
canfod canrannau o symiau
cyfrifo cynnydd a gostyngiad canrannol
cyfrifo newid canrannol gan ddefnyddio fformiwla
mynegi rhif fel canran o un arall.