1 Data arwahanol a di-dor
Mae data arwahanol yn wybodaeth nad yw ond yn gallu bod yn rhai gwerthoedd. Nid oes rhaid i’r gwerthoedd hyn fod yn rifau cyfan (gall maint esgidiau plentyn fod yn 3.5 neu gall cwmni wneud elw o £3456.25 er enghraifft) ond maen nhw’n werthoedd penodol – ni all plentyn fod ag esgidiau maint 3.72!
Mae nifer pob math o driniaeth mae angen i salon ei amserlennu mewn wythnos, nifer y plant sy’n mynychu meithrinfa bob dydd neu’r elw mae busnes yn ei wneud bob mis yn enghreifftiau o ddata arwahanol. Yn aml, caiff y math hwn o ddata ei gynrychioli gan ddefnyddio siartiau cyfrif, siartiau bar neu siartiau cylch.
Data di-dor yw data a all fod yn unrhyw werth. Mae uchder, pwysau, tymheredd a hyd yn enghreifftiau o ddata di-dor. Bydd rhai data di-dor yn newid dros amser; pwysau baban yn ei flwyddyn gyntaf neu dymheredd ystafell yn ystod y dydd. Graff llinell sy’n dangos y data hyn orau, gan fod y math hwn o graff yn gallu dangos sut mae’r data’n newid dros gyfnod penodol o amser. Yn aml, caiff data di-dor eraill, fel taldra grŵp o blant ar ddiwrnod penodol, eu grwpio’n gategorïau er mwyn ei gwneud yn haws i’w dehongli.
Byddwch wedi edrych ar wahanol ffyrdd o gyflwyno data yn Mathemateg Pob Dydd 1. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd nesaf i weld beth allwch chi ei gofio.
Gweithgaredd 1: Cyflwyno data arwahanol a di-dor
Parwch y dewis gorau o graff ar gyfer y data isod.
Siart i ddangos taldra plant mewn dosbarth.
Siart i ddangos hoff ddiod cwsmeriaid mewn canolfan siopa.
Siart i ddangos y tymheredd ar bob diwrnod o’r wythnos.
Siart i ddangos canran gwerthiant pob math o docyn mewn cyngerdd.
Ateb
Siart i ddangos taldra plant mewn dosbarth.
Y dewis gorau fan hyn yw (d) y siart bar, gan y gall ddangos taldra pob plentyn yn glir.
Siart i ddangos hoff ddiod cwsmeriaid mewn canolfan siopa.
Y dewis gorau fan hyn yw (b) y siart cyfrif gan eich bod yn gallu ychwanegu at y data pan fydd pob cwsmer yn gwneud ei ddewis. Byddai siart bar neu gylch yn addas hefyd.
Siart i ddangos y tymheredd ar bob diwrnod o’r wythnos.
Yr unig ddewis fan hyn yw (c), sef y graff llinell, gan ei fod yn dangos sut mae’r tymheredd yn newid dros amser.
Siart i ddangos canran gwerthiant pob math o docyn mewn cyngerdd.
Mae’n debyg mai (a) y siart cylch yw’r dewis gorau fan hyn, gan ei fod yn dangos yn glir dadansoddiad pob math o werthiant tocyn. Byddai siart bar hefyd yn cynrychioli’r data’n briodol.
Nawr eich bod yn gyfarwydd â’r ddau fath gwahanol o ddata, dewch inni edrych yn fwy manwl ar y gwahanol fathau o siart a graff; sut i’w lluniadu’n gywir a sut i’w dehongli.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
- dysgu am y ddau wahanol fath o ddata, arwahanol a di-dor, a phryd a pham y defnyddir nhw.