10 Dod â phopeth ynghyd
Llongyfarchiadau ar gwblhau Mathemateg Pob Dydd 2. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r profiad ac yn awr wedi’ch ysbrydoli i ddatblygu’ch sgiliau mathemateg ymhellach.
Drwy gydol y cwrs hwn, rydych wedi datblygu’ch sgiliau yn y meysydd canlynol:
- deall a defnyddio rhifau cyfan a rhifau degol, a deall rhifau negatif yng nghyd-destun arian a thymheredd
- datrys problemau sy’n galw am ddefnyddio’r pedwar gweithrediad a thalgrynnu atebion i radd benodol o gywirdeb
- deall a defnyddio cywertheddau rhwng ffracsiynau cyffredin, degolion a chanrannau
- gweithio allan ffracsiynau syml a rhai mwy cymhleth, a chanrannau meintiau
- cyfrifo newid canrannol
- adio, tynnu, lluosi a rhannu degolion hyd at dri lle degol
- datrys problemau cymhareb lle caiff y wybodaeth ei chyflwyno mewn ffyrdd gwahanol
- deall trefn gweithrediadau a defnyddio hyn i weithio gyda fformiwlâu
- datrys problemau sy’n galw am gyfrifiadau â mesuriadau cyffredin, gan gynnwys arian, amser, hyd, pwysau, cynhwysedd a thymheredd
- trosi unedau mesur yn yr un system a’r rhai mewn systemau gwahanol
- tynnu gwybodaeth o dablau, diagramau, siartiau a graffiau, a’i dehongli
- casglu a chofnodi data arwahanol, a threfnu a chynrychioli gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd
- canfod y cymedr, canolrif, modd ac amrediad ar gyfer setiau o ddata
- defnyddio data i asesu tebygolrwydd canlyniad a’i fynegi mewn gwahanol ffurfiau
- gweithio gydag arwynebedd, perimedr a chyfaint, lluniadau wrth raddfa a chynlluniau.