Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Cydbwyso adnoddau defnyddiol yn erbyn cyfyngiadau

Nawr edrychwch eto ar y cyfyngiadau a'r adnoddau a restrwyd gennych yng Ngweithgaredd 4. Gwnaethoch fwy na thebyg nodi rhai ffactorau a fyddai'n eich helpu i symud i'r cyfeiriad rydych am fynd iddo a ffactorau eraill y mae angen i chi ddod o hyd i ffordd o'u hamgylch. Nawr, mae angen i chi ystyried pob un o'ch nodau o safbwynt yr holl adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol neu'r cyfyngiadau a allai beri rhwystr i chi. Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu gyda hyn.

Activity _unit5.2.3 Gweithgaredd 5

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Edrychwch yn gyntaf ar yr enghraifft yn Nhabl 2. Cafodd ei lunio gan rywun a oedd eisiau gwneud cais am ddyrchafiad. Caiff pob cyfyngiad ei nodi yn erbyn adnodd defnyddiol, gan roi darlun cytbwys o'r sefyllfa.

Table _unit5.2.2 Tabl 2
Adnoddau Cyfyngiadau
Cefnogaeth rheolwr llinell Ymateb cydweithwyr
Uchelgais personol/penderfyniad Symudedd cyfyngedig
Yn barod i gymryd cyfrifoldeb Ychydig iawn o brofiad o reoli pobl
Profiad ym maes rheoli prosiectau Dim profiad o reoli cyllidebau

Nawr, dychwelwch at y templed a phwyswch a mesur yr adnoddau a'r cyfyngiadau ar gyfer y nod(au) a restrwyd gennych yng Ngweithgaredd 3. Pa nodau yw'r rhai pwysicaf? Tynnwch sylw atynt.

Pa gamau gweithredu fyddai'n eich helpu i wneud y gorau o'r adnoddau a restrwyd gennych? A beth fyddai'n eich helpu i leihau effeithiau'r cyfyngiadau?

Rydych wedi rhestru'r camau gweithredu y gallwch eu cymryd er mwyn cyflawni eich nodau. Nawr dylech ddwyn y camau gweithredu a'r adnoddau at ei gilydd, gan restru'r adnoddau a all eich helpu i gymryd pob cam. Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 3, lle rhestrwyd 'dim profiad o reoli cyllidebau' fel problem.

Table _unit5.2.3 Tabl 3
Camau gweithredu Adnoddau
  • Mynd ar gwrs cyllid ar gyfer y sawl nad ydynt yn rheolwyr yn y gwaith
  • Dilyn cwrs y tu allan i'r gwaith gyda'r nos
  • Dysgu am y broses gyllidebu
  • Cyrsiau hyfforddiant mewnol
  • Mae coleg lleol yn cynnig cwrs
  • Cefnogaeth rheolwr llinell
  • Cefnogaeth y teulu

Nawr gwnewch hyn ar gyfer pob un o'r camau gweithredu a restrwyd gennych yn y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gadael sylw

Dylai fod gennych ddarlun clir nawr o'r hyn rydych wir ei eisiau a pha syniadau rydych am eu datblygu. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'r prif ffynonellau cymorth a'r problemau y mae angen i chi fynd i'r afael â nhw.

Study note _unit5.2.1

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 2 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.