1.1 Gweithio mewn tîm fel llywodraethwr

Mae cyrff llywodraethu yn cynnwys unigolion sy'n defnyddio eu gwybodaeth, profiad a chymhellion eu hunain. Daw llywodraethwyr o sefydliadau gwahanol a gallant fod wedi'u hethol neu eu hapwyntio i'r corff llywodraethu. O fewn y corff llywodraethu mae yna hefyd gyfres o is-dimau, a grëir at ddibenion penodol; gallai'r rhain fod yn bwyllgorau statudol, neu rai sy'n diwallu anghenion penodol ysgol unigol. Gall pwyllgorau cyrff llywodraethu gwmpasu meysydd fel materion personél a chyllid, cyflawniad, derbyniadau, llesiant a lles, safle, y cwricwlwm, neu strategaeth.
Mae Gweithgaredd 1 yn gofyn i chi feddwl am y priodoleddau a'r gweithredoedd a ddisgwylir gan lywodraethwyr ysgol, a'r hyn a all fod yn gyffredin rhyngddynt.
Gweithgaredd 1 : Llywodraethwyr a gwaith tîm
Edrychwch ar y rhestr isod. Pa briodoleddau a gweithredoedd a fyddai'n ddisgwyliedig gennych fel llywodraethwr? A allwch nodi thema gyffredin o ran y priodoleddau a'r gweithredoedd rydych wedi'u dewis?
Gadael sylw
Mae'r datganiadau wedi'u haddasu o'r Llawlyfr i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru (Gwasanaethau Governors Cymru, 2019) ac maent yn rhan o Egwyddorion Ymddygiad i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Gwasanaethau Governors Cymru.
Mae pob datganiad yn berthnasol i rôl llywodraethwr ac yn dangos bod gwaith tîm yn rhan bwysig o'ch gwaith fel llywodraethwr. Rydych yn cyfrannu drwy weithio gyda llywodraethwyr eraill, staff, rhieni a gofalwyr, a disgyblion i wneud y canlynol:
- pennu nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol
- cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni'r amcanion hyn
- monitro a gwerthuso er mwyn canfod a yw'r nodau, yr amcanion a'r blaenoriaethau hynny yn cael eu cyflawni.
Bydd pob corff llywodraethu yn cyflawni ei rôl yn y ffordd sydd fwyaf addas i anghenion yr ysgol unigol a'i disgyblion. Fodd bynnag, mae yna rai nodweddion cyffredin rhwng cyrff llywodraethu, er enghraifft:
- yr angen i greu pwyllgorau a pholisïau statudol
- cyfrifoldebau cyfreithiol
- penodi clerc i'r corff llywodraethu
- cael cyngor gan y Pennaeth cyn gwneud penderfyniadau
Caiff llawer o'ch gwaith fel llywodraethwr ei gyflawni mewn timau ac wrth weithio gydag eraill. Er bod rhai o'r datganiadau uchod yn ymwneud â chi fel unigolyn, mae angen i chi gydweithio ag eraill er mwyn eu cyflawni.
Cyn symud ymlaen i'r adran nesaf, sy'n ystyried rolau tîm, treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono.
Gweithgaredd 2: Eich corff llywodraethu
Treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono ac ystyriwch y cwestiynau canlynol:
- Pa strwythur y mae'r corff llywodraethu wedi ei fabwysiadu?
- Pa bwyllgorau rwy'n ymwneud â nhw?
- Beth yw cylch gwaith y pwyllgorau hynny?
- Pa hyfforddiant rwyf wedi'i gwblhau a gyda phwy?
- Pa 'fath' o lywodraethwr ydw i?
- Ymhlith yr enghreifftiau mae rhiant-lywodraethwr, athro-lywodraethwr, staff-lywodraethwr, llywodraethwr awdurdod lleol, pennaeth fel llywodraethwr, llywodraethwr cymunedol, llywodraethwr cymunedol ychwanegol, llywodraethwr sylfaen, disgybl-lywodraethwr cyswllt, llywodraethwr partneriaeth neu noddwr-lywodraethwr
Ar ôl myfyrio ar y cwestiynau, treuliwch ychydig funudau yn nodi eich ymatebion i bob cwestiwn yn y blwch testun isod.
Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.
Discussion
Mae gan bob corff llywodraethu strwythur sy'n adlewyrchu anghenion y gymuned ysgol y mae'n ei chynrychioli. Fodd bynnag, mae yna rai gofynion statudol y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu eu bodloni mewn perthynas â phwyllgorau a pholisïau, gan gynnwys:
- pwyllgor disgyblu a diswyddo staff
- pwyllgor apeliadau disgyblu a diswyddo staff
- pwyllgor disgyblu disgyblion a gwaharddiadau
- panel dethol y Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth
- Arfarnwyr Rheoli Perfformiad Pennaeth ac Arfarnwr/Arfarnwyr Apeliadau
- adolygu cyflogau ac apeliadau'n ymwneud ag adolygu cyflogau
- cwynion ac apeliadau cwynion
- medrusrwydd ac apeliadau medrusrwydd
- gweithdrefnau cwyno.
Bydd gan bob corff llywodraethu ddogfen gyfeirio sy'n pennu ei bwerau a'i ddyletswyddau, ei safle yn y strwythur adrodd, nifer gofynnol y llywodraethwyr. Rhaid adolygu hyn y flynyddol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar hyfforddiant sefydlu a llywodraethiant ysgolion.
Gall y cyhoedd weld pob blog ar y cwrs hwn. Gallwch benderfynu p’un a ydych am i ddysgwyr eraill roi sylw ar eich blogiau.
Ar ôl i chi fyfyrio ar eich corff llywodraethu eich hun a'ch gwaith fel llywodraethwr, mae'r adran nesaf yn ystyried rolau timau.