2.1 Meddwl am 'weithio mewn partneriaeth’
Mae dulliau agored a chynhwysol o weithio mewn partneriaeth wedi arwain at gydnabyddiaeth eang o bwysigrwydd rhieni a gofalwyr fel partneriaid - yn enwedig yn ystod blynyddoedd cynharaf plant, pan fo cysylltiad agos rhwng gofal ac addysg. Mae deddfwriaeth addysgol hefyd wedi hwyluso cyfraniad rhieni a gofalwyr drwy roi mwy o lais iddynt fel 'defnyddwyr' gwasanaeth cyhoeddus.
Mae gweithio ar lefel gyfartal â rhieni a gofalwyr yn bwysig, felly hefyd y mae'r ddealltwriaeth nad yw'r ymarferwr na'r rhiant/gofalwr yn 'gwybod orau'. Mae gan bob un ohonynt safbwyntiau penodol ar blentyn sy'n ategu ei gilydd. Mae gweithio fel tîm i gefnogi datblygiad a chyfleoedd addysgol plentyn yn sicrhau bod y plentyn hwnnw'n cael y cyfle gorau posibl i wireddu ei botensial.
Gweithgaredd 4: Geiriau a chysyniadau sy'n gysylltiedig â'r syniad o 'bartneriaeth rhiant/gofalwr'
Meddyliwch am y geiriau canlynol a nodwch y rhai y byddech yn eu cysylltu â phartneriaeth rhwng ymarferwr a rhiant/gofalwr. Yna, yn y blwch testun a ddarperir, nodwch y geiriau y gwnaethoch eu dewis.
- Cymryd rhan
- Cefnogi
- Cydweithio
- Ymgysylltu
- Ymgynghori
- Dealltwriaeth a rennir
- Parch
- Trafodaeth
- Gwybodaeth
- Profiad
Ar ôl myfyrio ar y cwestiynau, treuliwch ychydig funudau yn nodi eich ymatebion i bob cwestiwn yn y blwch testun isod.
Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.
Sylw
Mae pob un o'r geiriau yn berthnasol mewn rhyw ffordd. Nid yw'r bartneriaeth yn parhau yr un fath ac mae'n newid wrth i blentyn ddatblygu a symud ymlaen yn ei addysg. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae'r bartneriaeth yn ymwneud â dealltwriaeth a rennir a thrafodaeth; yn ddiweddarach, mae'n aml yn datblygu'n gyfres fwy penodol o rolau a chyfrifoldebau.
Mae rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr yn ystyried partneriaeth mewn ffyrdd gwahanol, ac mae'r ffordd y mae partneriaeth yn gweithio yn amrywio'n sylweddol: efallai na fydd yr hyn a ystyrir yn briodol mewn un maes yn addas mewn maes arall, ac mae'n bosibl y bydd arferion arloesol mewn un lleoliad yn rhai cyffredin yn rhywle arall.
Gan mai ymarferwyr sydd fel arfer yn ysgogi'r bartneriaeth, maent yn aml yn arwain y gwaith o ddiffinio ei natur a phenderfynu faint o ran y bydd rhieni a gofalwyr yn ei chwarae yn y parth addysgol proffesiynol. Mae ymarferwyr yn aml yn tybio eu bod yn gwybod beth sydd er budd gorau rhieni a gofalwyr (Bastiani a Wolfendale, 1996; Edwards, 2002), a all arwain at bartneriaeth unochrog.
Mae'r ddeddfwriaeth a'r amgylchedd addysgol y mae ysgolion yn gweithredu oddi mewn iddynt yn aml yn newid. Mae newid yn berthnasol am ei fod yn aml yn ymwneud ag ymarferwyr a rhieni/gofalwyr. Mae newid hefyd yn effeithio ar y bartneriaeth a chymuned ehangach yr ysgol. Dros y degawdau diwethaf, mae newidiadau wedi cynnwys y gofyniad i bob ymarferydd ymgynghori â rhieni a gofalwyr. Ceir bellach gynrychiolaeth gan rieni/gofalwyr ar lefel awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol. Cymerir camau i gasglu barn rhieni a gofalwyr yn ystod arolygiadau o ysgolion. At hynny, caiff rhieni a gofalwyr eu hannog i fynegi eu barn.
Mae'r agenda 'Addysg Well i Blant yng Nghymru' wedi arwain at adolygiadau mawr ac arferol gan y llywodraeth a gynlluniwyd i hyrwyddo a sicrhau profiadau a chyflawniad addysgol gwell. Yn 2019 yn unig, cafwyd ymgyngoriadau ar Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol, canllawiau ar gyfer Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a chanllawiau ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Mae angen i bawb sy'n ymwneud â datblygiad ac addysg plentyn fod yn ymwybodol o'r datblygiadau a'r newidiadau arfaethedig. Nid yw hyn bob amser yn dasg hawdd, ond mae'n un y gall ymarferwyr a llywodraethwyr gyfrannu ati, gan rannu'r datblygiadau a'r effeithiau hyn fel rhan o'u gwaith a'u partneriaeth â rhieni a gofalwyr. Gall cymuned ysgol wybodus a brwdfrydig gefnogi a gwella'r broses newid honno.