2.2 Pam y dylid cydweithio?
Mae yna nifer o resymau pam y dylai rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr a chymuned yr ysgol gydweithio â'i gilydd.
Mae ymchwilwyr ac ymarferwyr addysgol yn aml yn pwysleisio'r manteision y mae gwaith tîm effeithiol rhwng ymarferwyr, rhieni, gofalwyr a dysgwyr yn eu cynnig i ddysgu plant. Gall cydweithio rhwng rhieni ac ymarferwyr fod yn bwysig i hunaniaeth, hunan-barch a llesiant seicolegol plentyn. Mae cydberthynas agos rhwng rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr wrth ddarparu cymorth i blant yn arbennig o bwysig yn ystod cyfnodau o newid a phontio. Mae hyn ynddo'i hun yn rheswm cymhellol dros bartneriaeth agos.
Dylai'r oedolion allweddol ym mywyd plentyn allu uniaethu ag ef a'i annog mewn ffyrdd tebyg. Er mwyn deall i ba raddau y gall rhieni a gofalwyr fod yn rhan o addysg eu plant, byddwch nawr yn ystyried i ba raddau y maent yn gwneud y canlynol:
- cyflawni rôl addysgwr
- rhoi cymorth 'cefndir' i ymarferwyr
- gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr.