Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2.1 Mae rhieni a gofalwyr yn addysgwyr

Described image

Mae pob rhiant a gofalwr yn addysgwr anffurfiol gweithredol, p'un a yw'n cydweithio ag addysgwyr proffesiynol ac ymarferwyr y plentyn ai peidio. Mae rhieni a gofalwyr yn cefnogi dysgu plentyn ym mhob agwedd ar ei fywyd, ac mae plant yn dysgu drwy gymryd rhan mewn bywyd teuluol a chymunedol. Gall hyn gynnwys:

  • arsylwi ar y broses o baratoi a rhannu prydau a chyfrannu at y broses honno
  • helpu i ofalu am aelodau eraill o'r teulu (brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau)
  • cyfrannu at dasgau siopa a mynd ar negeseuon
  • mynd i ddigwyddiadau teuluol a chymunedol
  • mynd ar deithiau
  • rhannu llyfrau, straeon, caneuon, fideos, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ffilmiau a dramâu â rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd.

Fel llywodraethwr, efallai y byddwch yn dod ar draws sefyllfa lle mae rhiant am fynd â hyn gam ymhellach drwy ddod yn 'addysgwr yn y cartref' ffurfiol. Mae'n bosibl y bydd rhieni'n gwneud hyn am eu bod yn teimlo bod eu plentyn yn anhapus mewn lleoliad ffurfiol. Maent yn credu y gall eu plentyn ffynnu drwy gael ei addysgu gartref. Lleiafrif o rieni sy'n dewis addysgu yn y cartref o hyd.