Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2.2 Mae rhieni a gofalwyr yn rhoi cymorth ‘cefndir’ i ymarferwyr

Described image

Mae rhieni a gofalwyr, i bob pwrpas, yn athrawon cyntaf plentyn - ond nid yw pob rhiant a gofalwr yn gallu cymryd rhan pan fydd plentyn yn mynd i amgylchedd ysgol. Er y bydd llawer o rieni a gofalwyr yn dod yn rhan o weithio mewn partneriaeth ac addysg eu plentyn, gall fod rhesymau hefyd pam nad yw rhiant neu ofalwr yn gallu (neu'n dewis) peidio â chymryd rhan. Felly mae'n bwysig bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau ac ystyried y rhesymau pam nad yw'n ymddangos bod rhieni a gofalwyr yn gwneud yr hyn y mae lleoliad yn ei ofyn ganddynt, neu beidio â chymryd rhan lawn yn addysg eu plentyn.

Ffigur 4 Cyhoeddi ymgyrch 'Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref' ar wefan Plant yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn annog rôl rhiant a gofalwr 'gefndir' ar bob cam o addysg plentyn. Mae syniadau a gwybodaeth wedi'u datblygu a'u cyhoeddi'n eang: er enghraifft, roedd gan ymgyrch 'Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref' ffrwd Twitter [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a thudalen Facebook er mwyn annog rhieni a gofalwyr i gyfrannu at addysg eu plentyn.

Ffigur 5 Cyfrif Twitter ymgyrch 'Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref' .
Ffigur 6 Tudalen Facebook ymgyrch 'Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref' .

Mae mentrau a arweinir gan y Llywodraeth yn bwysig o ran helpu rhieni a gofalwyr i deimlo y gallant fod yn rhan o ddysgu ffurfiol eu plentyn. Mae'r adnoddau hefyd yn darparu gwybodaeth, syniadau ac anogaeth er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i fod yn llai dibynnol ar leoliadau blynyddol cynnar ac ysgolion.

Dylech nawr roi cynnig ar Weithgaredd 5, sy'n cynnig cyfle i archwilio a myfyrio ar y rôl y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae fel 'addysgwyr'.

Gweithgaredd 5: Rhieni a gofalwyr fel addysgwyr

Timing: Caniatewch 25 munud

Treuliwch ychydig funudau yn darllen erthygl gan Owen Hathway (bydd angen i chi sgrolio i lawr ar ôl clicio ar y ddolen) ac yna myfyriwch ar ei pherthnasedd i chi fel llywodraethwr. Efallai y byddwch yn dewis gwneud nodyn o'r pwyntiau allweddol yn y blwch isod.

Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.

Sylw

Mae'r gweithgaredd hwn yn gyfle i chi fyfyrio ar y rôl y mae rhiant/gofalwr yn ei chwarae yn addysg ei blentyn. Mae Owen Hathway yn swyddog polisi ac mae'r erthygl yn cynrychioli ei farn. Caiff ei gyflogi gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

Mae'r awdur yn nodi bod angen cynnwys rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu gwireddu ei botensial llawn. Mae hyn yn adlewyrchu'r syniad bod angen addysg 'ffurfiol' ac 'anffurfiol' er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gwireddu ei botensial. Mae gan ysgolion, rhieni, gofalwyr a'r gymuned oll rôl i'w chwarae. Cyflawnir y dasg drwy waith tîm a phartneriaeth. Bydd y timau a'r partneriaethau hynny yn amrywio o ran maint a hyd, ond mae gan bob corff llywodraethu rôl i'w chwarae ynddynt.