2.2.3 Mae rhieni a gofalwyr yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr
Drwy weithio fel cynorthwywyr gwirfoddol, gall rhieni a gofalwyr ddarparu cymorth amhrisiadwy i blant, yn enwedig mewn lleoliad addysg gynnar – er enghraifft drwy ddarparu cymorth dysgu i blant. Mae Gweithgaredd 6 yn cynnig cyfle i ystyried pam y mae'n fuddiol gweithio gyda rhieni/gofalwyr.
Gweithgaredd 6: Pam y dylid gweithio gyda rhieni a gofalwyr?
Edrychwch ar y naw datganiad isod; mae pob un ohonynt yn rheswm pam y dylai ymarferwyr weithio gyda rheini a gofalwyr. Ystyriwch bob datganiad a'r drefn y maent wedi'u cyflwyno ynddi. Yn y blwch isod, nodwch a ydych yn cytuno â phob datganiad a nodwch ym mha drefn y byddech yn rhoi'r datganiadau, gan roi rhesymau.
- Seibiant: Mae gan rai rhieni a gofalwyr anawsterau eithafol: emosiynol, cymdeithasol ac ariannol. Mae darparu cyfleusterau i rieni yn rhoi amser iddynt ymlacio a chwrdd ag eraill tra bo staff hyfforddedig yn gofalu am eu plant.
- Sgiliau ymarferol: Nid oes gan rai rhieni a gofalwyr y sgiliau gofal plant sylfaenol. Mae eu gwahodd i aros yn rhoi cyfle iddynt ddysgu oddi wrth staff a rhieni a gofalwyr eraill am bethau fel bwydo, newid, hylendid a chwsg.
- Gwybodaeth am blant: Rhieni a gofalwyr sy'n adnabod ac yn deall eu plant orau. Os ydynt ar gael i rannu'r wybodaeth hon, gall staff ei defnyddio i ddarparu gofal gwell i'w plant.
- Hunan-barch: Mae gan rai rhieni a gofalwyr ddiffyg hunan-barch. Drwy dreulio amser gyda rhieni a gofalwyr a'u hannog i feithrin sgiliau personol, gall staff roi ymdeimlad o hunan-werth iddynt, a hyder yn eu gallu eu hunain i ofalu am blant.
- Hawliau defnyddwyr: Mae rhieni a gofalwyr talu am ddarpariaeth cyn-ysgol naill ai'n uniongyrchol neu drwy ardrethi a threthi. Fel defnyddwyr, dylent gael eu cynnwys yn y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hyn.
- Partneriaeth: Cyfleusterau cymunedol yw gwasanaethau cyn-ysgol, a dylent ymateb i anghenion y rhai hynny sy'n eu defnyddio. Caiff staff a rhieni a gofalwyr gyfleoedd i feithrin cydberthnasau anffurfiol ac ymlaciol, sy'n ei gwneud yn haws i rhieni a gofalwyr fynegi eu hanghenion.
- Cymorth gan y naill a'r llall: Gan y rhai hynny sydd â phroblemau tebyg y mae pobl yn aml yn cael y cymorth mwyaf ystyrlon. Dylid sicrhau bod cyfleoedd ar gael i rieni gwrdd â'i gilydd er mwyn rhannu teimladau, gwerthoedd ac anawsterau, a chefnogi ei gilydd drwyddynt.
- Pâr ychwanegol o ddwylo: Mae yna nifer o dasgau'n gysylltiedig â gofal plant nad oes angen hyfforddiant nac arbenigedd penodol i'w gwneud: torri darnau o bapur ar gyfer gwaith celf, golchi teganau, gwneud dillad doliau, paratoi diodydd. Dylid annog rhieni i wneud tasgau o'r fath, fel y gall staff hyfforddedig ddarparu gwasanaethau sy'n gofyn am sgiliau gwahanol.
- Gwella dealltwriaeth: Nid yw rhai rhieni yn deall yr angen i ysgogi plant. Dylid annog rhieni i gydweithio â staff wrth gynllunio a chynnal gweithgareddau chwarae gyda'r plant. Bydd hyn yn gwella eu dealltwriaeth o werth chwarae.
Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.
Sylw
Mae'r datganiadau'n dangos buddiannau niferus cydweithio. Maent hefyd yn rhoi cipolwg ar anghenion (tybiedig) rhieni a gofalwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r datganiadau'n ymwneud â'r buddiannau y mae partneriaeth yn eu cynnig i rieni a gofalwyr. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio am y buddiannau posibl i ymarferwyr hefyd. Gallant feithrin dealltwriaeth well drwy wrando ar rieni a gofalwyr ac ystyried eu dealltwriaeth bersonol o blant – er enghraifft y datganiad 'Gwybodaeth am blant'. Gall ymarferwyr hefyd gael eu cefnogi gan rieni a gofalwyr mewn nifer o ffyrdd ymarferol, fel y mae'r datganiad 'Pâr ychwanegol o ddwylo' yn ei awgrymu.
Mae'n bosibl eich bod wedi rhoi blaenoriaeth i fuddiannau i rieni/gofalwyr, ymarferwyr, plant, neu gyfuniad o'r rhain. Mae'n bwysig cydnabod bod cydweithio'n agos â rhieni a gofalwyr yn ganolog i ddatblygiad, llesiant a chyflawniad plentyn.
Mae partneriaeth yn ymwneud â rhieni a gofalwyr yn ymateb i syniadau ymarferwyr. Un ffordd amlwg o gynyddu ewyllys, dealltwriaeth ac ymdeimlad o bartneriaeth rhwng ymarferwyr, rhieni a gofalwyr yw drwy ddarparu cyrsiau a gweithdai. Gall y rhain fod ar sawl ffurf, ond yn y bôn, maent yn ymwneud â darparu lleoliad i rieni a gofalwyr er mwyn gwneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth iddynt
- egluro'r hyn y mae eu plant yn ei wneud yn y lleoliad
- rhoi gwybodaeth iddynt am eu plant
- eu helpu i gefnogi dysgu eu plant yn fwy effeithiol
- cynyddu eu hyder wrth gysylltu ag ymarferwyr ag ymholiadau ac awgrymiadau
- cynnig sgiliau a gwybodaeth iddynt a all fod yn ddefnyddiol iddynt.
Mae'n bwysig meithrin ymdeimlad ehangach o gwmpas y bartneriaeth a'r ffyrdd ymarferol niferus y gellir ei fynegi. Mae gwaith partneriaeth yn dueddol o gael ei lywio gan weithwyr proffesiynol – llunwyr polisïau, arbenigwyr ym maes y blynyddoedd cynnar, damcaniaethwyr addysgol ac ymarferwyr – ond prin iawn y caiff ei lywio gan rieni neu ofalwyr eu hunain. Felly mae'n bwysig meithrin cysyniad o bartneriaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a allai fod yn briodol ym marn gweithwyr proffesiynol; gweledigaeth sy'n rhoi lle i rieni, gofalwyr, llywodraethwyr a phlant fynegi syniadau creadigol ac annisgwyl.
Mae gan ymarferwyr deimladau cryf am y mathau o bartneriaeth sy'n cefnogi eu gwaith orau mewn ysgol benodol, ac mae'r ffordd y mae lleoliadau addysgol yn dehongli'r syniad o 'bartneriaeth' yn amrywio'n sylweddol. Wrth benderfynu pa fath o bartneriaeth a fyddai'n gweithio mewn lleoliad, mae angen ystyried yr hyn sy'n ymarferol yn ôl natur y rhieni a'r gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol, ond hefyd yr hyn sy'n briodol i anghenion y plant. Mae'n rhaid i'r plant fod wrth wraidd unrhyw 'bartneriaeth'.
Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o'r amrywiaeth o ffyrdd y gall rhieni ymgysylltu ag ymarferwyr ac ysgol. Mae'r tabl yn seiliedig ar waith Pugh a De’Ath (1989).
Nid yw'r rhieni a'r gofalwyr yn rhan o ddysgu eu plant | Mae yna rai anghyfranogwyr 'gweithredol' sy'n penderfynu nad ydynt am fod yn rhan o ddysgu eu plant. Mae'n bosibl eu bod yn fodlon ar y ddarpariaeth, neu'n brysur iawn yn y gwaith, neu'n awyddus i dreulio amser i ffwrdd o'u plant. Yn ôl Vincent (1996), maent yn 'rhieni sydd wedi datgysylltu (detached)'. Mae yna hefyd anghyfranogwyr 'goddefol' a fyddai'n hoffi bod yn rhan o ddysgu eu plant ond nad oes ganddynt yr hyder i wneud hynny, neu sy'n anfodlon o bosibl ar y math o bartneriaeth a gynigir. Yn ôl Vincent (1996), maent yn 'rhieni annibynnol'. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cefnogi'r lleoliad 'o'r tu allan' | Dim ond pan fyddant yn cael eu gwahodd i wneud hynny y mae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn cymryd rhan, er enghraifft drwy fynd i ddigwyddiadau neu ddarparu arian ar gyfer adnoddau dysgu. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cymryd rhan mewn lleoliad 'oddi mewn' fel cynorthwywyr | Mae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn helpu mewn ffyrdd fel darparu cymorth ar deithiau, cefnogi dysgu'r plant yn y lleoliad neu gynnal llyfrgell teganau. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cymryd rhan yn y lleoliad 'oddi mewn' fel dysgwyr | Mae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn mynychu gweithdai a sesiynau addysg i rieni. Mae'r a'r gofalwyr hyn yn cymryd rhan mewn fforymau rhieni, fel y rheini mewn lleoliadau preifat neu gorfforaethol lle nad oes unrhyw fwrdd ymddiriedolwyr, neu bwyllgorau rhieni/gofalwyr, lle y gallant drafod a rhyngweithio â rheolwyr y lleoliad. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn rhan o gydberthynas waith â'r ymarferwyr | Nodweddir cyfraniad y rhieni a'r gofalwyr hyn gan ymdeimlad a rennir o ddiben a pharch at y naill a'r llall. Er enghraifft, mae'r rhieni:
|
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn gwneud penderfyniadau ac yn eu rhoi ar waith | Yn y bôn, mae'r rhieni hyn yn gyfrifol ac yn atebol am ddarpariaeth y lleoliad ac mae ganddynt yr un cyfrifoldeb a rheolaeth â llywodraethwyr yn yr ysgol – er mai ychydig iawn ohonynt a fyddai'n ymgymryd â rheolaeth weithredol yn fwy nag y mae llywodraethwyr ysgol yn rheoli ysgol o ddydd i ddydd. |
Mae Adran 3 yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yma ac yn ystyried materion sy'n effeithio ar y broses o feithrin cydberthnasau gwaith rhwng rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr mewn lleoliad addysgol. Yn ei dro, gall y materion hyn effeithio ar waith corff llywodraethu a'i lywio.