Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Pwysigrwydd arweinyddiaeth

Described image

Mae'r pwyslais cynyddol ar arweinyddiaeth yn seiliedig ar y syniad bod arweinyddiaeth effeithiol yn arwain at ganlyniadau gwell o ran gofal, dysgu a datblygiad plant. Mae Rost (1991) yn disgrifio arweinyddiaeth fel cydberthynas ddynamig rhwng grŵp o bobl, lle mae arweinwyr a chydweithwyr yn cydweithio i sicrhau newid.

O'r safbwynt hwn, gellir ystyried bod arweinyddiaeth yn broses ddylanwadu ddwyffordd ryngweithiol. Hynny yw, p'un a yw'r ymarferydd unigol wedi'i ddynodi'n 'gyfrifol' neu'n 'rheolwr' ai peidio, gall pob ymarferydd fyfyrio ar ei ymarfer ei hun, rhoi newid ar waith a dylanwadu ar ansawdd y ddarpariaeth. Mae’r syniad o arweinyddiaeth fel proses ryngweithiol yn galluogi pawb sy’n gweithio mewn ysgol – boed hynny fel ymarferwr neu mewn rolau eraill – i gydweithio mewn diwylliant o ddysgu a gwybodaeth a rennir er mwyn sicrhau bod y disgyblion ysgol yn cael addysg ardderchog. Mae gwaith llywodraethwyr yn rhan o'r dysgu a'r wybodaeth a rennir hynny.

Mae datblygu diwylliant tîm yn agwedd allweddol ar arweinyddiaeth. Bydd natur a strwythur y tîm yn amrywio yn ôl cyd-destun y gwaith i'w wneud, ond dylai aelodau'r tîm fod yn gweithio tuag at nodau cyffredin. Mae cyfathrebu a'r strategaethau a ddefnyddir gan arweinwyr ac aelodau timau yn allweddol i'r ffordd hon o weithio.

Gweithgaredd 8: Y gallu i arwain

Timing: Caniatewch 10 munud

Myfyriwch ar eich profiad eich hun o arweinyddiaeth, p'un a yw hynny fel aelod o dîm neu fel arweinydd. Yn y blwch isod, nodwch dri gallu rydych yn disgwyl i arweinydd eu dangos.

Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.

Sylw

Mae arweinwyr yn defnyddio eu profiadau, eu sgiliau a'u galluoedd eu hunain. Mae arweinwyr llwyddiannus yn meddu ar amrywiaeth o alluoedd. Bydd eich rhestr o alluoedd yn seiliedig ar eich profiad eich hun a gall gynnwys rhai o'r canlynol:

  • hyder
  • sgiliau cyfathrebu effeithiol
  • y gallu i gymryd cyfrifoldeb
  • y gallu i wneud penderfyniadau hyddysg
  • hyblygrwydd
  • uchelgais
  • brwdfrydedd
  • parodrwydd i ddysgu.

Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr ac mae'n bwysig cofio y gall unigolion ddangos tystiolaeth o arweinyddiaeth heb feddu ar rôl arwain ddynodedig.

Mae arweinyddiaeth ei hun yn broses dameidiog amrywiol, a roddir ar waith mewn cyd-destun o newid ochr yn ochr â thasgau rheoli o ddydd i ddydd. Mae arweinyddiaeth yn effeithiol os yw'n datblygu arweinyddiaeth aelodau'r tîm. Felly, rôl arweinydd yw annog eraill i arwain eu hunain. Nid gwneud pethau'n haws i'r arweinydd yw diben hyn, ond manteisio i'r eithaf ar ddoniau pawb. Mae arweinwyr yn chware rôl bwysig wrth alluogi ymarferwyr eraill i feithrin y galluoedd angenrheidiol i wella ansawdd y ddarpariaeth. Mae'n bosibl y dylai ymarferwyr geisio mabwysiadu'r rhinweddau arwain a nodwyd gan McCall a Lawlor (2000), sy'n awgrymu y dylai arweinyddiaeth fod yn seiliedig ar weledigaeth:

Rhaid i arweinwyr feddu ar ryw fath o syniad am y dyfodol, y gorwel pell a'r cynllun gweithredu llawn, ac mae angen iddynt feddu ar y gallu i gynnal eu momentwm personol a momentwm y tîm wrth geisio cyflawni'r nod dymunol. Rhaid iddynt hefyd ddangos rhinweddau dynol cyfoethog fel teyrngarwch i genhadaeth, chwilfrydedd, beiddgarwch, ymdeimlad o antur a sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i reoli'r rhai sy'n gweithio iddynt mewn modd teg a sensitif. Rhaid iddynt allu eu cymell eu hunain ac eraill, dangos ymrwymiad i'r achos, rhyddhau doniau ac egni eraill, meddu ar hunanhyder ond hefyd agwedd hyblyg a pharodrwydd i ddysgu technegau a sgiliau newydd.

(McCall a Lawlor, 2000, yn Jones Pound, 2008, t. 1)

Er mwyn sicrhau darpariaeth addysgol effeithiol mae angen i arweinwyr ac ymarferwyr fyfyrio'n barhaus ar brofiadau'r plant yn eu lleoliad ac, mewn partneriaeth â'u teuluoedd, llywodraethwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, ysgogi newid er gwell.

Described image
Ffigur 12 Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â phennu nodau a gwaith tîm

Mae arweinyddiaeth yn berthnasol i bawb, beth bynnag fo'u rôl yn eu lleoliad. Meddyliwch am rinweddau, sgiliau a galluoedd penodol arweinydd. Isod ceir fersiwn gryno o ddetholiad Reed (2009) o'r rhinweddau, y sgiliau a'r galluoedd personol a all nodweddu arweinydd effeithiol.

Rhinweddau arwain ymarferwyr y blynyddoedd cynnar (Reed, 2009):

  • gwybodaeth glir am ei gryfderau a'i wendidau ei hun a'i gydweithwyr
  • sicrhau y caiff gwybodaeth am blant a theuluoedd ei throsglwyddo'n effeithiol
  • gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth
  • bod yn flaengar ac yn arloesol; annog cydweithwyr i wneud yr un peth
  • arwain drwy esiampl
  • dod o hyd i ffyrdd o fyfyrio ar ei ymarfer, ac annog cydweithwyr i wneud yr un peth.

Mae gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn dod yn fwyfwy cymhleth ac mae'r rolau'n gofyn am lefelau uchel o wybodaeth a sgiliau gan ymarferwyr ac arweinwyr. Mae Jones a Pound (2008) yn defnyddio'r ymadrodd ‘arweinyddiaeth gynhwysol' gan gefnogi'r syniad bod darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn rhy heriol i gael ei chyflawni gan un person yn unig. Mae hyn yn awgrymu bod gan bob aelod o'r tîm cyfan, i raddau amrywiol, ran hollbwysig i'w chwarae. Yn hyn o beth, mae'n bosibl bod arweinydd dynodedig, ond nid oes diwylliant 'arweinydd a dilynwyr' yn y lleoliad – yn hytrach, mae yna ddiwylliant o dîm gyda phawb yn gweithio'n gyfforddus mewn hinsawdd o werthuso a myfyrio.

Un o nodweddion lleoliad blynyddoedd cynnar yw bod nifer o oedolion yn gweithio fel rhan o dîm. Efallai na fydd ymarferydd sy'n gweithio gartref, er enghraifft, yn ymddangos fel pe bai'n rhan o 'dîm' nac yn 'arweinydd' ond mae'n bosibl ei fod yn gweithio gydag ymarferwyr eraill sy'n gweithio gartref, canolfannau plant a gwasanaethau cymorth lleol. Mae angen sgiliau arwain ar ymarferwyr y blynyddoedd cynnar at nifer o ddibenion, gan gynnwys:

  • arwain y cwricwlwm
  • gwneud penderfyniadau
  • gweithio gyda rhieni a gofalwyr
  • datblygu polisïau
  • gweithio gyda gweithwyr proffesiynol neu asiantaethau eraill
  • gweithio gyda llywodraethwyr
  • delio â gwrthdaro
  • trefnu'r amgylchedd dysgu ac amgylchedd yr ysgol.