Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3 Gwerthoedd a chredoau yng nghyd-destun gwaith tîm

Described image

Derbynnir yn gyffredinol fod y syniad o 'nod cyffredin' yn greiddiol i'n dealltwriaeth o waith tîm. Ond beth yw 'nod cyffredin'? Mae Rodd yn awgrymu y gellir diffinio tîm fel a ganlyn:

Grŵp o bobl yn cydweithredu er mwyn gweithio tuag at fodloni set o nodau, amcanion neu ddibenion y cytunwyd arnynt, wrth hefyd ystyried anghenion a buddiannau personol unigolion.

(Rodd, 2006, t. 149)

Mae Rodd hefyd yn awgrymu bod y cysyniadau canlynol yn gysylltiedig â thimau:

  • mynd ar drywydd athroniaeth, delfrydau a gwerthoedd cyffredin
  • ymrwymiad i ddatrys problemau
  • cyfrifoldeb a rennir
  • cyfathrebu agored a gonest
  • mynediad at system gymorth.

Deellir yn gyffredin fod gwaith tîm yn ymwneud ag israddio buddiannau unigolion o blaid buddiannau'r grŵp. Mae hyn yn golygu bod angen i anghenion y tîm gael blaenoriaeth dros anghenion unigolion o fewn y tîm er mwyn creu ysbryd tîm. Mae gwaith tîm yn seiliedig ar nifer o werthoedd craidd.

Parch at unigolioncydnabod urddas a natur unigryw pawb, ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cyfleu'r parch hwnnw.
Hybu llesiantgweithio er lles pawb a cheisio helpu unigolion i ffynnu.
Gwirioneddmeddu ar ymrwymiad i addysgu a chroesawu gonestrwydd; bod yn agored i'r hyn sydd gan eraill i'w ddweud; a herio unrhyw achosion o anwiredd.
Democratiaethy gred y dylai pawb gael y cyfle i fanteisio ar hunanlywodraeth neu ymreolaeth; a cheisio cynnig cyfleoedd i bobl fwynhau ac arfer hawliau democrataidd.
Tegwch a chydraddoldeb

meithrin cydberthnasau a nodweddir gan y canlynol:

  • tegwch
  • herio achosion o wahaniaethu er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb
  • a gwerthuso camau gweithredu o ran y ffordd y caiff pobl eu trin, y cyfleoedd sy'n agored iddynt a'r gwobrau y maent yn eu cael

Nid yw meddu ar werthoedd a chredoau craidd a'u trosi'n ymarfer bob amser mor syml ag y mae'n ymddangos. Gall gweithio fel tîm llwyddiannus fod yn anodd. Mae natur amrywiol lleoliad a'r amrywiaeth o unigolion dan sylw yn golygu nad oes un ffordd benodol o gyflawni gwaith tîm llwyddiannus. Gall cyfyngiadau penodol atal ymarfer y tîm rhag adlewyrchu gwerthoedd a safbwyntiau ei aelodau.

Mae datblygu diwylliant tîm mewn hinsawdd gyfforddus o ofyn cwestiynau, cadarnhau dealltwriaeth, myfyrio a gwerthuso yn hollbwysig er mwyn gwella profiadau addysgol, ac mae gan gyrff llywodraethu rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth.

Os yw tîm craidd yn gweithio'n effeithiol tuag at nodau a rennir, bydd y tîm yn gallu uniaethu a rhyngweithio'n haws ag aelodau eraill o'r tîm ehangach neu allanol. Mae'r ymgyrch tuag at waith partneriaeth wedi'i disodli'n raddol gan y syniad mwy hyblyg o waith a gwasanaethau 'integredig' a gwmpesir gan y term 'gwaith amlasiantaethol'.