2 Y dylanwadau cymdeithasol ar wario
Pan fyddwch chi’n prynu cynnyrch – yn enwedig pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth drud – gall sawl ffynhonnell wahanol o bwysau fod yn berthnasol i’r penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud.
Yn amlwg, mae pwysau economaidd. A oes gennych chi ddigon o arian i brynu’r eitem rydych chi ei heisiau? Beth yw gwerth yr eitem? Oes angen i chi fenthyg arian neu a allwch chi dalu am yr eitem gyfan yn syth?
Ond mae pwysau cymdeithasol hefyd. Gall y rhain effeithio ar ein dewis o gynnyrch a brandiau, yn enwedig pan fydd y cynnyrch yn cael ei weld a’i ddefnyddio’n gyhoeddus – er enghraifft ceir, ffonau clyfar a dillad.
Gwrandewch ar Glip Sain 1 a dysgwch am y pwysau cymdeithasol hyn a allai effeithio’n ymwybodol neu yn isymwybodol ar yr hyn rydym yn ei brynu. Yna rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Transcript: Clip Sain 2 Y ffordd fodern o siopa
Yn aml, mae ystyriaethau llai ymwybodol na phris rhywbeth, neu faint o arian sydd gennym i’w wario, yn dylanwadu ar ein penderfyniadau gwario. Gall dylanwadau cymdeithasol effeithio ar ein gwariant hefyd. Beth am edrych ar y pwysau yma ar ein hymddygiad gwario?
Y ffordd gyntaf o ddeall hyn yw edrych ar y cysyniad o statws cymdeithasol.
Dywedodd y cymdeithasegydd, Max Weber, fod statws cymdeithasol person yn seiliedig ar lefel yr awdurdod neu’r bri sydd ganddynt ym marn pobl eraill. Felly, gall statws fod yn seiliedig ar swydd neu lefel incwm rhywun – ond mae hefyd yn cwmpasu nodweddion eu defnydd (sef y nwyddau a’r gwasanaethau maen nhw’n eu prynu).
Fel y dywedodd Zygmunt Bauman, mewn cymdeithas o ddefnyddwyr, ‘mae angen i unigolyn fod yn ddefnyddiwr yn gyntaf, cyn gallu meddwl am fod yn unrhyw beth penodol’. Mae’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio yn diffinio ein hunaniaeth ac, fel y mae Bauman yn nodi, wrth i dueddiadau a ffasiynau newid, mae’r hunaniaeth rydyn ni’n ei mabwysiadu a’r patrymau defnyddio sy’n nodweddu’r hunaniaeth honno, yn newid hefyd. Wrth gwrs, gall hyn roi pwysau ar gyllid pobl wrth iddyn nhw geisio dilyn y tueddiadau hynny.
Mewn cymdeithas o ddefnyddwyr, gall y nwyddau mae pobl yn eu prynu fod â nodweddion defnyddiol, ond gallant hefyd fod yn symbolau statws. Mae prynu ffôn symudol neu gar ffasiynol yn ein galluogi ni i gadw mewn cysylltiad neu ein helpu ni i deithio, ond mae hefyd yn cael ei ystyried yn ddefnydd symbolaidd.
Mae defnydd symbolaidd yn awgrymu bod pobl yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonyn nhw, a bod ein barn am bobl eraill yn seiliedig yn rhannol ar yr hyn maen nhw’n ei ddefnyddio ac yn berchen arno. Mae defnydd symbolaidd yn gymhelliant pwerus i wario.
Gellir deall y syniadau hyn ymhellach drwy edrych ar sylwadau dau awdur arall.
Yn gyntaf, wrth ysgrifennu bron i ganrif yn ôl, soniodd Thorstein Veblen am sut mae gwariant yn ffordd o arddangos cyfoeth rhywun. Mae pethau moethus yn cael eu prynu er mwyn i bobl eraill allu gweld pa mor gyfoethog yw’r prynwr. Ac mewn cymdeithas lle mae cyfoeth yn cyfleu statws uchel, mae prynu symbolau o gyfoeth – fel Ferrari neu ddillad â ‘label dylunwyr’ – yn rhoi’r statws uchel hwnnw i chi. Term Veblen ar gyfer y math hwn o wario oedd ‘defnydd amlwg’.
Cafwyd safbwynt gwahanol ar nodau defnydd symbolaidd gan Bourdieu yn nes ymlaen yn yr ugeinfed ganrif. Yma, mae defnydd yn ffordd o wahaniaethu rhwng pobl yn ôl dosbarth cymdeithasol.
Dosbarthiadau cymdeithasol yw’r ffordd anffurfiol o roi statws i bobl ar sail eu hincwm, eu swydd, eu haddysg a ffactorau eraill, fel cefndir eu teulu. Ym marn Bourdieu, ein dosbarth cymdeithasol sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ein defnydd a’n chwaeth. Yn ôl Bourdieu, er bod gan unigolion rywfaint o ryddid o ran y ffordd maen nhw’n gwario eu harian, mae eu dosbarth cymdeithasol yn rheoli ac yn cyfyngu ar y ffordd maen nhw’n cyflawni’r penderfyniadau hynny drwy ddylanwadu ar eu chwaeth.
Mae modd ymestyn syniadau Bourdieu y tu hwnt i ddosbarth cymdeithasol, er mwyn deall sut gellid defnyddio gwariant i ddangos bod rhywun yn perthyn i grŵp cymdeithasol – boed yn punk, goth, hipster, amgylcheddwr, deallusyn neu'n ‘ddylanwadwr cymdeithasol’.
Mae’r cysyniad hwn o ddefnydd symbolaidd wedi cael ei ddatblygu ymhellach gan ddau awdur yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl ymchwil Silvia Bellezza, mae bod yn brysur yn y gwaith (sy’n awgrymu llwyddiant) yn fath o symbol o statws – yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Amser yw'r peth sy’n cael ei ddefnyddio’n amlwg yma. Mae hyn yn gwbl wahanol i syniad yr awduron cynharach a oedd yn ystyried mai bywyd hamddenol oedd y ffordd fwyaf amlwg o ddangos y cyfoeth sy’n hwyluso’r math honno o fywoliaeth.
I'r gwrthwyneb, mae Elizabeth Currid-Halkett yn canolbwyntio ar y newid ym mhatrwm defnydd, sef ei fod yn symud tuag at bethau sy’n adlewyrchu sefyllfa ddiwylliannol yn hytrach na bod yn berchen ar bethau materol. Mae hyn yn golygu gwario ar bethau fel addysg, bwyd organig, ymarfer yoga – pethau sy’n cael eu hystyried yn ‘ddefnydd anamlwg’. Caiff y ddadl hon ei hategu gan Giana Eckhardt, sy’n honni bod pobl gyfoethog nawr yn eu gwahaniaethu eu hunain drwy frandio mwy cynnil a llai amlwg – fel logos llai ar ddillad.
Pa bynnag rai o’r awduron hyn rydych chi’n cytuno â nhw, mae un peth yn sicr – pan ydych chi’n gwario arian, rydych chi, i ryw raddau o leiaf, yn adlewyrchu eich cefndir cymdeithasol, eich dylanwadau a’ch uchelgeisiau.
Cofiwch hefyd ystyried a ydych chi’n meddwl am eich gwariant a’ch ymddygiad chi mewn perthynas â'r nodweddion cymdeithasol hyn sy’n annog defnydd.
Gweithgaredd 2 Pam ein bod yn prynu’r hyn rydyn ni’n ei brynu
Nodwch y prif ddylanwadau cymdeithasol ar yr hyn rydym yn ei brynu yn ôl:
- Veblen
- Bourdieu
Answer
Mae Veblen yn cyfeirio at y cysyniad o ddefnydd amlwg lle mae cynhyrchion yn cael eu prynu fel arwydd o ffyniant neu i geisio cydnabyddiaeth a chymeradwyaeth gan eraill.
Agwedd Bourdieu yw bod y dosbarth cymdeithasol y maent yn credu eu bod yn perthyn iddo neu’n dymuno perthyn iddo yn dylanwadu ar yr hyn y mae pobl yn ei brynu. Felly, mae’r pryniannau a wneir yn symbolaidd o’r dosbarth hwn a bwriedir iddynt fod yn wahanol i chwaethau a dewisiadau dosbarthiadau cymdeithasol eraill.
Ydych chi’n cydnabod y dylanwadau hyn yn eich grŵp cymdeithasol eich hun?