Sesiwn 3: Benthyca arian
Cyflwyniad
Mae Martin Lewis yn cyflwyno Sesiwn 3 ar fenthyca, gan archwilio’r rhesymau da a gwael sydd gan bobl dros fynd i ddyled.

Trawsgrifiad
Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.
Trawsgrifiad
Er na ddylid byth benthyca’n ysgafn, ac y dylai bob amser fod ar gyfer rhywbeth fforddiadwy y lluniwyd cyllideb ar ei gyfer, os yw pobl yn gallu rheoli eu dyledion yn synhwyrol ac ad-dalu arian o leiaf ar amser neu, yn well fyth, cyn gynted ag y bo modd, yna nid oes angen mynd i banig. Wedi’r cyfan, ni all y rhan fwyaf o bobl fforddio prynu cartref neu gar gan dalu ar eu hunion, felly mae angen iddynt fenthyg arian parod, sydd yn ei dro’n helpu i roi hwb i’r gwahanol farchnadoedd.
Yn y UK yn 2021, roedd dyled bersonol yn gyfanswm anhygoel o £1.7 triliwn. Mae hynny’n £1,700 biliwn o bunnoedd o arian a fenthyciwyd sy’n ddyledus gan aelwydydd yn y DU.
Y newyddion da yw nad yw benthyca yn achosi problemau ariannol i lawer o bobl. Ond i rai pobl, mae ad-dalu arian a fenthyciwyd yn broblem.
Eto, ni all rhai pobl fenthyca ar gost resymol oherwydd eu statws credyd gwael. Gallai eu hamgylchiadau, sy’n aml yn gysylltiedig â bod ar incwm isel, eu gorfodi i ddefnyddio ffynonellau benthyca drud megis credyd tymor byr cost uchel – a gallai cost benthyca fel hyn olygu bod eu hanawsterau ariannol yn gwaethygu.
Mae’r sesiwn hon o’r cwrs yn canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i chi ei wybod er mwyn gallu benthyca’n effeithiol ar y telerau gorau, ac ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i sicrhau bod benthyg arian yn ddefnyddiol, yn hytrach nag yn ffynhonnell hunllefau ariannol.
Byddwch hefyd yn gweld bod y gallu i fenthyca a chost benthyca’n cael eu pennu gan bethau y mae gennych rywfaint o reolaeth drostynt (megis eich sefyllfa ariannol a’ch hanes credyd, sy’n effeithio ar ba mor ddeniadol ydych fel cwsmer benthyca) a phethau na allwch eu rheoli (fel lefel bresennol cyfraddau llog).
Ar ôl astudio'r sesiwn hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- deall gan bwy y gallwch fenthyca a pha gynhyrchion sydd ar gael
- deall beth sy’n effeithio ar eich sgôr credyd a beth allwch chi ei wneud i’w reoli
- gwybod pa bryd y mae benthyca'n synhwyrol a phryd y mae'n fyrbwyll
- deall beth sy’n pennu cost benthyca arian
- deall cost gymharol gwahanol ffyrdd o fenthyca.
Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.