Sesiwn 6: Cynllunio ar gyfer ymddeoliad
Cyflwyniad
Gellid dadlau mae cynllunio pensiwn yw'r agwedd bwysicaf ar reolaeth ariannol bersonol.

Transcript: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 6
Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.
Transcript: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 6
Mae sicrhau digon o incwm i gael ymddeoliad cyfforddus y gallwch chi ei fwynhau wedi bod yn bwysig erioed ac, o ystyried bod hirhoedledd ar i fyny, mae’r amser mae pobl yn ei dreulio wedi ymddeol wedi cynyddu yn ystod y degawdau diwethaf. Mae gan bobl 65 oed yn y DU ddisgwyliad oes cyfartalog o 19 mlynedd ychwanegol i ddynion a 21 mlynedd ychwanegol i fenywod (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019a). Dim ond y disgwyliad oes cyfartalog yw hwn: mae llawer o bobl yn cyrraedd eu degfed degawd a thu hwnt.
Mae bob amser wedi bod yn bwysig cynllunio i sicrhau incwm yn nes ymlaen mewn bywyd ond, oherwydd bod pobl yn byw’n hŷn, mae hynny’n hanfodol erbyn hyn. Mae ffactorau eraill wedi ategu'r angen hwn i baratoi ar gyfer ymddeoliad yn gynnar yn eich bywyd:
- Mae’r oedran y caiff pobl ddechrau hawlio pensiwn y wladwriaeth wedi bod yn codi – yn enwedig i fenywod – a bydd yn codi eto yn y dyfodol. Gyda phobl yn byw’n hŷn, mae’r costau mae’r llywodraeth yn eu hysgwyddo yng nghyswllt pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu. Felly, mae codi'r oedran y caiff pobl ei hawlio yn un ffordd o liniaru’r gost hon.
- Mae elw isel ar fuddsoddiad yn ystod y degawd diwethaf, gyda chyfraddau llog yr isaf maen nhw wedi bod, wedi’i gwneud yn anoddach cronni cynilion i gynyddu incwm pensiwn.
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar sut mae cynllunio i gael incwm digonol yn nes ymlaen mewn bywyd.
Byddwch yn astudio pensiwn y wladwriaeth, cynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol, yn ogystal â ffyrdd eraill o gael arian i’w ddefnyddio ar ôl ymddeol.
Byddwch hefyd yn edrych ar y diwygiadau i bensiynau a gyflwynwyd yn 2015. Maen nhw wedi rhoi mwy o opsiynau i bobl ddefnyddio eu cronfeydd pensiwn.
Mae materion treth cymhleth yn gysylltiedig â phensiynau hefyd, a byddwch chi’n dysgu am y rhain.
Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am gynllunio pensiwn, felly beth am ddechrau arni drwy edrych ar sut mae’ch gwariant yn newid pan ydych chi’n ymddeol. Cyn gwybod faint o incwm sydd ei angen arnoch chi ar ôl ymddeol, mae angen i chi gael amcan da o faint rydych chi’n disgwyl ei wario.
Ar ddiwedd y sesiwn, fe ddylech chi ddeall:
- sut mae pensiwn y wladwriaeth yn gweithio yn y DU
- cynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol
- y gwahaniaethau rhwng cynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio (‘cysylltiedig â chyflog’) a chyfraniadau wedi’u diffinio (‘prynu arian’).
- yr hyblygrwydd sydd nawr ar gael i ddefnyddio’r arian yn eich cronfa bensiwn (a’r risgiau y gallech chi eu hwynebu yn sgil hyn)
- y prif faterion treth sy’n gysylltiedig â chynllunio pensiwn
- eich opsiynau os nad yw’ch incwm pensiwn yn ddigon i fodloni eich gwariant ar ôl ymddeol.
Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.