6 Model gwneud penderfyniadau i gymryd rheolaeth o benderfyniadau gwariant
Ar ôl edrych ar yr amrywiol ddylanwadau mewnol ac allanol ar benderfyniadau gwario, mae’n bryd i chi reoli sut rydych chi’n mynd ati i wario arian. Mae rhai camau syml a all eich helpu i wneud dewisiadau da (neu well o leiaf) o gynnyrch a gwasanaethau.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Gwyliwch Fideo 3 ar y model pedwar cam ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Transcript: Fideo 3 Model gwneud penderfyniadau i gymryd rheolaeth o benderfyniadau gwariant
[MUSIC PLAYING]
Gweithgaredd 8 Gwneud penderfyniadau gwario
Meddyliwch yn ôl am bryniant mawr diweddar a wnaed gennych – car efallai, teclyn i’r tŷ, cyfrifiadur newydd. Ar ôl gwylio’r fideo, pe baech chi nawr yn gwneud penderfyniad gwario tebyg, a fyddech chi’n mynd ati’n wahanol?
Answer
Yn amlwg, mae’r atebion yn bersonol i chi. Y cwestiynau allweddol yw:
- Wnaethoch chi wneud rhywfaint o ymchwil marchnad cyn prynu?
- A wnaethoch chi gymryd amser i ddod o hyd i’r fargen orau?
- A wnaethoch chi wedyn weithredu’n brydlon i brynu’r cynnyrch?
- A wnaethoch chi negodi telerau’r fargen, gan gynnwys y pris?
- Oeddech chi’n barod i newid gwasanaethau wrth brynu cynnyrch fel cynnyrch yswiriant, a gwasanaethau cyfleustodau, rhyngrwyd a ffôn symudol?
- A ydych chi’n defnyddio’r canlyniad i’ch arwain chi wrth wneud y pryniant mawr nesaf?
Efallai fod hyn i gyd yn ymddangos yn dipyn o dasg – ond efallai y cewch eich synnu faint y gallwch ei arbed bob blwyddyn drwy ddefnyddio’r model pedwar cam hwn.
Nesaf, cewch gwis byr cyn archwilio sut y gall y model pedwar cam helpu wrth brynu cynnyrch yswiriant.