8 Benthyca cost isel a chost uchel
Rydych chi wedi edrych ar sawl ffordd wahanol o fenthyca yn y sesiwn hon. Nawr, edrychwch i weld faint rydych chi wedi’i ddysgu am y cynhyrchion dyled hyn.
Gweithgaredd 4 Cyfateb y cynnyrch dyled i’w nodweddion
Nodir yn y tabl isod chwe ffordd wahanol o gael benthyg arian.
O dan y tabl ceir naw datganiad sy’n berthnasol i o leiaf un o’r ffyrdd hyn o fenthyca.
Gan ddefnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn ystod y sesiwn hon, dewiswch, ar gyfer pob ffordd o fenthyca, y tri datganiad sy’n berthnasol iddyn nhw.
Yn y blychau yn y golofn ar y dde, teipiwch y llythrennau (A-I) ar gyfer y tri sylw sy’n berthnasol.
Ffyrdd o fenthyca arian | Nodweddion neu ganlyniadau’r dull hwn o fenthyca (A-I) |
Morgais | |
Benthyciad gan y Banc | |
Gorddrafft | |
Cerdyn credyd | |
Cerdyn siop | |
Benthyciad diwrnod cyflog |
Nodweddion sy’n gysylltiedig fel arfer â’r dull benthyca
- A.Cyfradd llog cost isel (o gymharu â chost gyfartalog y chwe ffordd o fenthyca a restrir)
- B.Cyfradd llog cost uchel (o gymharu â chost gyfartalog y chwe ffordd o fenthyca a restrir) os nad ar gyfradd hyrwyddo – ee, cyfradd 0% ar gyfer cyfnod rhagarweiniol
- C.Mae perygl y bydd ased o’ch eiddo (ee, eich cartref) yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu'r ad-daliadau
- D.Gall fod yn ddi-log am gyfnod (ee, cyfraddau 0% cyflwyniadol ar gyfer trosglwyddiadau balans)
- E.Maen nhw’n aml yn gallu cael disgownt i chi y tro cyntaf y byddwch yn eu defnyddio i brynu nwyddau mewn siop
- F.Os yw’r cyfleuster hwn wedi’i drefnu ymlaen llaw, gallwch ei ddefnyddio i fenthyca ar unwaith heb orfod rhoi gwybod i’ch banc
- G.Bydd rhoddwr y benthyciad angen prisiad o'r ased yr ydych yn ei brynu cyn rhoi benthyg arian
- H.Mae gennych ddisgresiwn ynghylch ar beth yr ydych yn gwario’r arian a fenthyciwyd
- I.Gallai benthyca fel hyn amharu ar eich sgôr credyd
Ateb
Ffyrdd o fenthyca arian | Nodweddion neu ganlyniadau’r dull hwn o fenthyca |
Morgais | A, C, G |
Benthyciad gan y Banc | A, F, H |
Gorddrafft | B, F, H |
Cerdyn credyd | B, D, H |
Cerdyn siop | B, E, H |
Benthyciad diwrnod cyflog | B, H, I |
Da iawn – rydych chi bron â gorffen y sesiwn.
Nawr mae’n amser cwblhau’r cwis diwedd sesiwn. Ar ôl hynny, bydd y sesiwn yn cael ei dirwyn i ben, a byddwch yn cael awgrymiadau os byddwch chi'n cael trafferth rheoli ad-dalu'r arian rydych chi wedi'i fenthyg.