1.1 Y gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi
Cyn ichi ddechrau edrych ar arbedion a chynnyrch buddsoddi, mae rhai diffiniadau pwysig y mae angen eu hegluro’n glir.
Mae pobl yn aml yn defnyddio’r termau ‘cynilo’ a ‘buddsoddi’ yn ogystal â ‘chynilion’ a ‘buddsoddiadau’ yn gyfnewidiol. Efallai y byddan nhw hefyd yn defnyddio’r term ‘cynilo’ wrth sôn am y ffordd mae arian yn cael ei roi mewn amrywiaeth o wahanol gynnyrch, er gyda’r amcan cyffredin o adeiladu swm o arian dros amser.
Eto, mae gwahaniaeth clir rhwng y termau hyn.
- Cynilo Rhoddwyd sylw i hyn yn yr adran flaenorol, ac mae’n golygu neilltuo arian i’w ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer amrywiaeth o ddibenion posibl.
- Cynnyrch cynilo neu gyfrifon cynilo. Cynnyrch syml yw’r rhain lle byddwch yn cynilo arian gyda banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, a byddwch yn derbyn llog. Yn hollbwysig, ac eithrio ar gyfer cynilwyr mawr iawn, nid yw gwerth y cyfalaf (y swm a gynilwch yn wreiddiol) mewn perygl os caiff ei gynilo gyda sefydliad ariannol a reoleiddir yn y DU.
- Cynnyrch buddsoddi. Yma, mae risg ond hefyd mwy o fuddion nag a geir gyda chyfrif cynilo. Gyda buddsoddiad, gall gwerth eich arian fynd i fyny ac i lawr wedyn yn dibynnu ar berfformiad eich buddsoddiad. Nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg, ond mae angen ichi ddeall bod eich cyfalaf mewn perygl.
Nawr gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y gwahaniaethau rhwng cynilion a buddsoddiadau a’r gwahanol resymau dros wneud y ddau.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .