Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

12 Deall bondiau

Y prif fath arall o gynnyrch buddsoddi ariannol yw bond, a all gael ei roi gan gwmnïau neu lywodraethau. Gelwir bondiau hefyd yn fuddsoddiadau 'llog sefydlog'.

Rhywun yn llofnodi dogfen.
Ffigur 13 Mae bondiau’n gwneud addewidion i fuddsoddwyr

Mae bond yn fenthyciad a wneir gan fuddsoddwr i fenthyciwr (cwmni neu lywodraeth fel arfer). Rydych yn prynu bond gydag arian parod ac mae’r benthyciwr yn addo ad-dalu’r arian a fuddsoddwyd ar ddyddiad penodol. Bydd y benthyciwr hefyd yn talu llog i chi ar ddyddiadau diffiniedig (yn flynyddol fel arfer) yn ystod oes y bond. Mae’r gyfradd llog fel arfer yn sefydlog, er enghraifft, ar 2% neu 5% y flwyddyn.

Mae gan fondiau ‘werth enwol’ – dyma’r swm y cyfrifir y llog arno a gellir ei rannu'n symiau bach i'w gwerthu, fel arfer £1000 neu lai. Er enghraifft, gallai buddsoddwr brynu £100 enwol o ‘fond 5% pum mlynedd’. Bydd hwn yn talu 5% y flwyddyn am bum mlynedd ar £100 enwol – hynny yw, £5 y flwyddyn. Gellir talu’r llog bob chwarter, bob hanner blwyddyn neu bob blwyddyn, yn dibynnu ar y math o fond a brynwyd. Ar ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd, byddai buddsoddwr yn derbyn £100 i ad-dalu’r gwerth enwol (neu ‘wynebwerth’).

Mae bondiau’n tueddu i fod yn llai peryglus na chyfranddaliadau oherwydd bod ganddynt gyfradd llog a addawyd ac oherwydd bod deiliaid bondiau cwmni yn dod o flaen cyfranddalwyr cwmni pe digwyddai i gwmni gael ei ddirwyn i ben.

Er eu bod yn llai peryglus na chyfranddaliadau, mae bondiau’n fwy peryglus na chyfrifon cynilo. Y rheswm am hyn yw, gyda chynnyrch cynilo bod swm y cyfalaf a gewch yn ôl fel arfer yn sefydlog – os byddwch yn rhoi £100 ar gadw, cewch £100 yn ôl (ynghyd â llog).

Gyda bond, os caiff ei werthu cyn iddo aeddfedu, yna gellir talu mwy neu lai na’r swm enwol a addawyd. Bydd a yw’n fwy neu’n llai yn dibynnu ar symudiadau yn lefel y cyfraddau llog ar ôl i’r bond gael ei gyhoeddi. Os bydd cyfraddau llog yn gostwng, bydd gwerth bond cyfradd sefydlog a gyhoeddwyd yn gynharach yn codi gan ei fod yn cynnig cyfradd llog uwch i fuddsoddwyr na’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd ar fondiau newydd. Mae’r gwrthwyneb yn berthnasol os bydd cyfraddau llog yn codi.

Risg ychwanegol gyda bondiau yw, os bydd darparwr bond yn mynd yn fethdalwr, yna fel arfer nid oes gennych unrhyw warchodaeth ac efallai y byddwch yn colli eich buddsoddiad. Fodd bynnag, ystyrir bondiau llywodraeth y DU, a elwir yn giltiau, yn fwy diogel na chyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu, gan fod y llywodraeth hyd yn oed yn llai tebygol na banc neu gymdeithas adeiladu o ddiffygdalu.

Gellir prynu bondiau drwy froceriaid stoc neu, yn achos giltiau, drwy Wasanaeth Prynu a Gwerthu arbennig a drefnir gan y Swyddfa Rheoli Dyledion (DMO), adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am gyhoeddi dyled y llywodraeth.

Un nodyn pwysig cyn i ni symud ymlaen: gall rhai bondiau sy’n cael eu hysbysebu fel ‘cynnyrch cynilo tymor hir’ gynnwys cyfranddaliadau neu fathau eraill o fuddsoddiad, ac felly gall eu gwerth fynd i lawr yn ogystal â chynyddu. Nid yw’r mathau hyn o fondiau yn debyg i’r cynnyrch cynilo y buoch yn edrych arnynt yn gynharach. Gallant fod yn beryglus iawn. Felly byddwch yn ofalus a darllen y manylion yn fanwl er mwyn osgoi cael eich camarwain!