3.1 Beth am Fondiau Premiwm?
Y ffordd fwyaf poblogaidd o gynilo yn y wlad yw drwy brynu Bondiau Premiwm, a weithredir gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) – a gefnogir gan y llywodraeth. Oherwydd hyn, mae eich arian yn cael ei ddiogelu’n llawn.
Er gwaethaf y term ‘bond’, maent yn fath o gynilion. Ond yn lle ennill llog, bydd eich bondiau’n cael eu rhoi mewn raffl bob mis lle gallwch ennill hyd at £1 miliwn. Mae pob bond yn costio £1 a’r isafswm y gallwch ei roi i mewn yw £25, a £50,000 yw’r uchafswm.
Roedd y gwobrau ariannol a dalwyd bob blwyddyn yn cyfateb ar gyfartaledd (ym mis Mawrth 2022) i 1% o gyfanswm yr holl gynilwyr mewn bondiau premiwm. Er y gallech ennill £1 miliwn (ni fydd fawr neb, wrth gwrs) neu ddim byd, mae’r cyfartaledd hwn yn ddefnyddiol i’w gymharu â’r cyfraddau llog a delir ar gyfrifon cynilo. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl yn ennill llai na’r cyfartaledd hwnnw gan fod y gwobrau o filiwn o bunnoedd wedi eu cynnwys ynddo sy’n cymryd rhan helaeth o’r taliadau cyffredinol. Mae’n golygu, i’r rhan fwyaf o bobl, eich bod yn fwy tebygol o gael elw uwch mewn cyfrif cynilo arferol nag mewn Bondiau Premiwm, yn seiliedig ar gyfartaledd lwc, gan y gallwch fel arfer ennill mwy na 1% mewn mannau eraill.
Os enillwch chi unrhyw beth, mae gwobrau Bondiau Premiwm yn ddi-dreth. Efallai fod hynny’n ymddangos yn wych ond nid yw 95% o bobl yn talu treth ar eu cynilion beth bynnag.