4.1 ISAs ar gyfer eich cartref cyntaf neu eich ymddeoliad
Mae dau fath arall o ISAs y mae’n bwysig sôn amdanynt, un y gallwch ei agor o hyd, y llall yn dal i redeg ond sydd wedi’i gau i ymgeiswyr newydd.
ISAs Gydol Oes
Gall unrhyw un rhwng 18 a 39 oed agor LISAs, fel ffordd o gynilo ar gyfer cartref cyntaf neu ar gyfer eich ymddeoliad, a gallwch gynilo hyd at £4,000 y flwyddyn dreth. Yn ogystal â llog di-dreth, bydd y wladwriaeth yn darparu bonws o 25% o’r swm rydych chi’n ei arbed bob blwyddyn nes byddwch chi’n 50 oed. Felly, mae’n bosibl cronni bonysau o hyd at £33,000 drwy arbed uchafswm o £4,000 y flwyddyn a chael bonws o £1,000 (25%) am 33 mlynedd.
Fodd bynnag, mae gan LISAs reolau llym ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud gyda'r cynilion hyn. Ni ellir eu defnyddio ond ar gyfer y canlynol:
- Cymorth gyda phrynu eiddo am y tro cyntaf yn y DU. Rhaid defnyddio’r eiddo fel prif breswylfa – a chostio dim ond hyd at £450,000.
- Helpu i greu cronfa i ddarparu incwm pensiwn o 60 oed ymlaen.
Os byddwch yn tynnu arian o'ch LISA cyn i chi fod yn 60 am unrhyw reswm ar wahân i brynu eiddo am y tro cyntaf, byddwch yn wynebu cosb o 25% ar yr hyn y byddwch yn ei dynnu allan. Yr unig eithriad rhag talu'r ffi hon yw os oes gennych salwch terfynol. Felly, os byddwch yn agor LISA, rhaid i chi fod yn gwbl sicr na fydd angen yr arian arnoch at unrhyw ddibenion heblaw prynu eich cartref cyntaf neu i ddarparu incwm ymddeol. Ond hyd yn oed os ydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer incwm yn ddiweddarach mewn bywyd, mae risgiau ac efallai y byddai’n well i chi gynilo drwy ddulliau eraill (ee, cynyddu cyfraniadau cyflogwyr drwy bensiwn yn y gweithle), felly gwnewch fwy o waith cartref yn gyntaf.
ISAs Cymorth i Brynu
Nid yw’r rhain ar gael mwyach i ymgeiswyr newydd, ond os oes gennych un eisoes, gellir eu defnyddio tuag at brynu eiddo am y tro cyntaf. Mae’r wladwriaeth yn ychwanegu 25% at y cyfrifon ISA arian parod hyn, hyd at uchafswm o £3,000.
Does dim cosbau os byddwch chi'n tynnu'r arian allan a ddim yn ei ddefnyddio i brynu eiddo, ond fyddwch chi ddim yn cael y bonws gan y wladwriaeth.
Gweithgaredd 4 Gostyngiadau treth i gynilwyr
Pam mae’r llywodraeth yn cymell cynilo drwy ostyngiadau treth a bonysau (ar LISAs)?
Answer
Fe welsoch yn gynharach yn y sesiwn hon fod gan y DU record wael o ran cynilo.
Gall cartrefi sydd â mynediad at gynilion reoli mân argyfyngau – er enghraifft, yr angen i dalu am atgyweirio cartrefi neu offer newydd – heb orfod benthyca arian, efallai drwy ddulliau drud fel defnyddio cerdyn credyd.
Hefyd, gellid dadlau mai’r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio prynu tŷ am y tro cyntaf yw’r catalydd ar gyfer y gefnogaeth a ddarperir yn awr gan LISAs ac, hyd yn ddiweddar, gan argaeledd ISAs Cymorth i Brynu.
Gall LISAs hefyd helpu’r rheini sydd angen cronni eu cronfeydd pensiwn i’w cynnal ar ôl ymddeol. O ystyried y diffyg yn y cyllid sydd ei angen ar lawer o bobl ar gyfer eu hymddeoliad, mae’r gefnogaeth hon gan y llywodraeth – er nad yw’n sylweddol – yn ddefnyddiol. Er, fel y soniwyd uchod, efallai y bydd ffyrdd gwell o gynilo ar gyfer ymddeol.