7 Mae arian mewn cyfrif cynilo bron bob amser yn ddiogel
Mae rhoi arian mewn cyfrifon cynilo yn golygu bod y risg mor isel ag y gall fod. Nid yw gwerth y cyfalaf (arian) rydych yn ei roi mewn cyfrifon cynilo yn codi ac yn gostwng fel prisiau cyfranddaliadau, a bydd y llog a enillir yn ychwanegu at y balans.
Yr unig risg fechan fyddai pe bai’r sefydliad ariannol yn dod i ben. Y newyddion da i bron bob cynilwr yw eich bod yn cael eich gwarchod hyd at £85,000 y pen, fesul sefydliad ariannol, ar gyfer cynilion mewn Derbyniwr adneuon awdurdodedig sy’n cael ei reoleiddio yn y DU gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol swyddogol (FSCS). Y tu hwnt i hynny, nid ydych yn cael eich gwarchod, a dyma lle mae’r risg yn codi i bobl sydd â llawer o arian parod.
Os ydych chi’n ddigon lwcus i fod â llawer o arian, mae’n ddoeth peidio â rhoi eich wyau i gyd mewn un fasged ond yn hytrach eu gwasgaru, fel y dywed yr hen air.
Os ydych chi’n agos at y terfyn, edrychwch ar y rheolau. Mae’r terfyn yn amrywio o bryd i’w gilydd gan ei fod ar hyn o bryd wedi’i seilio ar bunt y DU sy’n cyfateb i €100,000 – ac felly mae’n newid wrth i’r gyfradd gyfnewid rhwng y Bunt a’r Ewro newid. Gallai’r ffordd y gosodir y terfyn newid pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ôl diwedd y cyfnod ‘trosglwyddo’. Felly cadwch lygad ar wefan yr FSCS.
Gwarchodaeth ychwanegol os cewch chi lawer o arian yn sydyn
Weithiau, efallai y bydd gennych symiau sylweddol o arian mewn cyfrif banc neu gyfrif cynilo am gyfnod byr oherwydd ‘digwyddiad bywyd’. Gall ‘balansau uchel dros dro’ o’r fath fod yn sylweddol uwch na therfyn yr FSCS o £85,000. I gwmpasu’r risg benodol hon, mae’r FSCS yn darparu amddiffyniad am hyd at £1 miliwn am uchafswm o 6 mis. Os byddwch yn ceisio diogelwch o dan y rheol hon, bydd angen i chi ddarparu prawf o ffynhonnell y ‘balans uchel’ i’r FSCS. Mae’r digwyddiadau cymwys yn cynnwys:
- gwerthu eiddo
- taliad dan bolisi yswiriant
- iawndal anaf personol
- taliad ar ôl colli swydd
- buddiannau sy'n daladwy ar ôl ymddeol
- etifeddiaeth.
Risgiau eraill i gynilion
Er nad yw’n risg i’ch cyfalaf ei hun, dylech hefyd fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Chwyddiant - mae risg yn berthnasol i gyfrifon cynilo. Mae gwahaniaeth rhwng swm yr arian parod neu’r swm ‘enwol’ a ddelir mewn cyfrif a gwerth y cynilion mewn termau ‘go iawn’ ar ôl ystyried chwyddiant prisiau. Felly os bydd eich cynilion yn ennill 1% AER a chwyddiant prisiau yn 2% y flwyddyn yna bydd gwir werth eich cynilion yn gostwng.
Os bydd hyn yn parhau am sawl blwyddyn, efallai y gwelwch, er gwaethaf yr enillion llog, yn y pen draw y bydd yr hyn y gallwch ei brynu gyda'ch cynilion eithaf dilyn yn llai nag y gallech fod wedi'i brynu cyn i chi ddechrau cynilo!
Er bod cyfrifon cynilo yn risg isel iawn, mae’r ‘gwir’ enillion y maent yn eu cynnig ar ôl ystyried chwyddiant prisiau fel arfer yn isel ac, ar adegau, yn negyddol. Felly cadwch lygad ar hyn!
Gall cyfrifon cynilo hefyd eich gwneud yn agored i risg o ran cyfradd llog.
Os byddwch yn rhoi arian mewn cyfrif cyfradd amrywiadwy, bydd eich enillion llog yn gostwng os bydd cyfraddau llog yn gostwng. Fel yr esboniwyd yn gynharach, os byddwch yn cynilo arian mewn cyfrif cyfradd sefydlog, ni fyddwch yn elwa os bydd lefel y gyfradd llog yn codi yn ystod cyfnod eich buddsoddiadau.
Mae’r gwrthwyneb yn berthnasol hefyd, wrth gwrs. Rydych yn elwa o gyfraddau’n codi os oes gennych gyfrif cyfradd amrywiadwy, ac yn osgoi’r anfanteision os oes gennych gynilion mewn cyfrif cyfradd sefydlog pan fydd cyfraddau llog yn gostwng. Felly mae manteision ac anfanteision – ond mae angen i chi fod yn effro i’r risg hon.
Yn olaf, mae 'risg mynediad' - y risg na allwch dynnu'ch cynilion yn ôl heb orfod talu tâl ar gyfrif cyfradd sefydlog. Y ffordd syml o ddelio â’r risg hon yw rheoli eich arian i wneud yn siŵr nad oes angen i chi byth gael mynediad at eich cyfrifon cyfradd sefydlog cyn diwedd eu cyfnod (dyweder, er enghraifft, blwyddyn). Fel hyn, byddwch bob amser yn osgoi taliadau o’r fath.