Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Llunio eich strategaeth cynilion

Gyda’r holl wybodaeth hon wrth law, gadewch i ni ystyried sut gallwch chi lunio eich strategaeth ar gyfer eich cynilion.

Mae’r ddelwedd yn llun o ddwy fenyw gyda gliniadur ar agor o’u blaenau. Mae’r ddwy’n edrych yn astud ar y sgrin gydag un fenyw yn pwyntio at y sgrin. Y tu ôl iddyn nhw mae silff lyfrau sy’n llawn llyfrau.
Ffigur 10 Cymharu strategaethau cynilion

Yr allwedd yw cyfateb y cyfrifon cynilo a ddewiswch i'ch rhesymau dros gynilo ac, wrth gwrs, dewis y gyfradd uchaf bosibl. Byddwn yn ceisio eich helpu i wneud hynny isod, ond rhaid dweud nad oes un ateb i’r cwestiwn ‘Pa gyfrif cynilo ddylwn i ei ddewis?’ gan fod cymaint o gymhlethdod wrth lunio’r darnau niferus yn y jig-so o’r hyn sydd ar gael a beth yw eich amgylchiadau.

Yn hytrach, mae’n well gweithio ar egwyddorion mwy cyffredinol yn hytrach na rheolau sefydlog ar yr hyn y dylech chi neu na ddylech chi ei wneud. Dyma roi cynnig arni...

  • Yn gyntaf, does dim angen i chi gael dim ond un cyfrif cynilo. Gallwch gael cymysgedd ohonynt oherwydd y gallech, er enghraifft, fod eisiau cadw rhywfaint am y tymor hir mewn cyfrif cyfradd sefydlog a rhywfaint mewn cyfrif mynediad rhwydd ar gyfer eu defnyddio pryd bynnag y bydd angen. Neu gyfuniad arall yn gyfan gwbl.

    Hefyd, os oes gennych fwy nag £85,000 o gynilion, yna’n bendant mae angen i chi eu rhannu rhwng gwahanol sefydliadau ariannol er mwyn i’ch arian fod yn ddiogel.

  • Meddyliwch yn ofalus am eich sefyllfa dreth i'ch helpu i benderfynu rhwng cyfrifon cynilo safonol, ISAs arian parod a Bondiau Premiwm. Cofiwch, nid yw 95% o bobl yn talu treth ar eu cynilion felly i’r rhan fwyaf o bobl, y dull cywir yw mynd am y gyfradd orau, boed hwnnw’n gyfrif safonol neu ISA – gall fod yn gyfradd llog llythrennol neu’n ‘gyfradd’ y Bond Premiwm.

    Fodd bynnag, hyd yn oed os nad ydych chi'n talu treth ar hyn o bryd, ystyriwch os byddwch chi'n gwneud hynny'n fuan (os oes gennych chi lawer o gynilion a/neu os ydych chi'n agos at esgyn un band treth) y bydd eich arian yn ddi-dreth am byth drwy gynilo mewn ISA (oni bai fod y rheolau'n newid).

  • Mae mynediad at eich arian a dewis rhwng cyfraddau sefydlog a chyfraddau amrywiadwy hefyd yn bwysig, er bod y penderfyniadau hyn yn mynd law yn llaw o ystyried y ffordd y mae cyfrifon yn cael eu strwythuro.

    Y pwynt allweddol cyntaf i’w ystyried yw a fyddwch angen mynediad at eich arian yn fuan. Os felly, mae mynediad rhwydd yn naturiol yn well, ond cadwch lygad allan rhag ofn y bydd y gyfradd yn gostwng o ystyried ei bod yn amrywiadwy.

    Os nad oes angen mynediad rhwydd arnoch, mae'r cyfraddau gorau fel arfer mewn cyfrifon cynilo rheolaidd, ond mae'r swm y gallwch ei roi i mewn yn gyfyngedig.

    Os ydych chi am gael sicrwydd o ran cyfradd ar gyfer y tymor hir a heb fod angen i chi gyffwrdd eich arian am gyfnod, yna mae cyfradd sefydlog yn rhoi'r sicrwydd hwnnw i chi, ac fel arfer mae'n cynnig cyfraddau uwch i ddechrau na chyfrif mynediad rhwydd, ond fyddwch chi ddim yn elwa os bydd y cyfraddau'n codi.

  • Ystyriaeth arall yw a ydych am agor cyfrif cyfredol i gael gwell cyfradd. Cofiwch, wrth i ni ysgrifennu’r cwrs hwn, bod argaeledd cyfraddau cynilo gwirioneddol dda ar gyfer cyfrifon cyfredol yn lleihau, ond mae’n werth edrych i weld a yw’r farchnad wedi gwella erbyn i chi ddarllen hwn.

    Os bydd y cyfraddau’n trechu cyfrifon cynilo arferol pan fyddwch yn darllen hwn, yna mae’n wych. Ond cofiwch efallai y bydd angen i chi eu gweithredu fel eich prif gyfrif cyfredol i gael y gyfradd, sy'n golygu talu swm penodol i mewn bob mis a bod â debydau uniongyrchol yn mynd allan.

  • Os ydych chi’n cynilo ar gyfer cartref cyntaf a’ch bod yn 18-39 oed, yna mae LISAs yn achubiaeth i’r rhan fwyaf o bobl, ond peidiwch ag agor un oni fyddwch chi’n siŵr eich bod am ei ddefnyddio at y diben hwnnw ac y bydd eich cartref yn costio llai na £450,000, neu fel arall ni fyddwch yn cael y manteision.

Nawr mae’n bryd cael cwis cyflym ac yna byddwch yn dechrau dysgu am gynnyrch buddsoddi. Efallai na fyddwch byth yn buddsoddi yn y rhain yn uniongyrchol ond mae bron yn sicr eich bod yn fuddsoddwr anuniongyrchol – yn enwedig drwy gynlluniau pensiwn. Felly, mae’n gwneud synnwyr dysgu am y buddsoddiadau sy’n cael eu gwneud ar eich rhan gan y rhai sy’n rheoli’r cronfeydd hyn.