Glossary
- Amrediad cynnig-i-bris
- (Fe’i gelwir hefyd yn amrediad bid-i-gynnig.) Yr amrywiad rhwng y pris y bydd gwneuthurwr y farchnad yn ei dalu am ased (y ‘bid’) a’r pris (uwch) lle byddant yn gwerthu’r un ased (y ‘cais’ neu’r ‘cynnig’).
- Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
- Rheoleiddiwr marchnadoedd a chwmnïau gwasanaethau ariannol y DU.
- Bond Premiwm
- Bond loteri sy’n cael ei gyflwyno gan lywodraeth y DU drwy ei hasiantaeth Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
- Compowndio
- Y broses o ennill llog ar enillion llog blaenorol yn ogystal â’r symiau gwreiddiol a gynilwyd (neu, i fenthycwyr, o orfod talu llog ar log blaenorol yn ogystal â’r swm gwreiddiol a fenthyciwyd).
- Cronfeydd cyfnewid a fasnechir (ETFs)
- Cwmnïau sy’n masnachu ar y farchnad stoc lle mae pris y cyfranddaliadau wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â gwerth y buddsoddiadau sylfaenol sydd ganddynt.
- Cwmnïau Buddsoddi Eiddo Tirol (REICs)
- Cwmnïau y gall eu busnes gynnwys prynu, gwerthu, adnewyddu a gosod eiddo a chyllido datblygiadau eiddo.
- Cyfraddau disgownt
- Y ffactorau a ddefnyddir i ragweld llifoedd arian yn y dyfodol i roi eu gwerth presennol iddynt – a fynegir hefyd fel gwerth arian heddiw.
- Cyfradd Flynyddol Gyfatebol (AER)
- Gwir gyfradd llog flynyddol ar gynnyrch cynilo ar ôl ystyried faint a pha mor aml y caiff llog ei dalu ym mhob blwyddyn.
- Cyfranddaliadau cwmni
- Asedau ariannol sy’n rhan-berchnogaeth ar gwmni.
- Cyfrif Cynilo Unigol (ISA)
- Cynilion (ISA Arian Parod) neu fuddsoddiadau (ISA Stociau a Chyfranddaliadau) lle nad oes rhaid talu treth ar y llog neu enillion eraill.
- Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
- Banc cynilo sy’n eiddo i wladwriaeth y DU. Mae’r llywodraeth yn defnyddio’r corff hwn i fenthyca arian gan y cyhoedd.
- Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
- Y cynllun i ddiogelu cynilion a buddsoddiadau a wneir gan y cyhoedd yn y DU os bydd yr endid y gwnaed y buddsoddiadau gydag ef yn methu.
- Chwyddiant
- Cynnydd yn lefelau’r prisiau.
- Difidendau
- Fel arfer, mae’r taliadau’n cael eu gwneud yn flynyddol neu’n hanner blynyddol i gyfranddalwyr cwmni.
- Enwol
- Yng nghyd-destun buddsoddiadau, gwerth wyneb ased. Yn fwy cyffredinol, mae’r term yn golygu heb ei addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gelwir hyn yn aml yn ‘yn nhermau arian parod’. Gweler Gwir.
- Gwarannau
- Asedau ariannol (fel bondiau) y gellir buddsoddi ynddynt.
- Gwarchodaeth (Hedge)
- Ffordd o wrthbwyso symudiad pris niweidiol ased neu grŵp o asedau.
- Gwasanaeth Arian a Phensiynau
- Corff canllawiau ariannol y DU sydd wedi ymgorffori'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol (MAS), y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau (TPAS) a Pension Wise.
- Gwerth presennol
- Gwerth llif arian yn y dyfodol, neu gyfres o lifoedd arian, yn nhermau arian heddiw.
- Gwir
- Wedi’i addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gweler Enwol.
- Lwfans cynilion personol
- Uchafswm y llog y gellir ei ennill ym mhob blwyddyn dreth heb dreth incwm. Nid yw hyn yn berthnasol i log ar ISAs sydd bob amser yn ddi-dreth.
- Llog
- Canran (%) cyfradd enillion ar gyfrif cynilo, a delir yn flynyddol fel arfer.
- Masnachwr stoc
- Person neu sefydliad ariannol sy’n dyfynnu prisiau ar gyfer prynu a gwerthu asedau ariannol diffiniedig (ee, cyfranddaliadau cwmni).
- Mynegai
- Mae mesur ystadegol grŵp diffiniedig o asedau – er enghraifft mynegai FTSE-100 – yn mesur y symudiad yng ngwerth cyfran gyfun y 100 cwmni uchaf a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
- Mynegai can cwmni’r FTSE
- Mynegai’r 100 cwmni mwyaf a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
- Rhyddhau ecwiti
- Defnyddio cynnyrch ariannol i gael gafael ar yr ecwiti a ddelir mewn eiddo, a’i droi’n arian parod, heb orfod gwerthu’r eiddo.
- Rhywun sydd wedi’i awdurdodi i gymryd adneuon
- Sefydliad ariannol sy’n cael derbyn adneuon (cynilion) gan y cyhoedd yn y DU.
- Sgoriau credyd
- Asesiadau o deilyngdod credyd a wneir gan asiantaethau sgorio credyd.
- Traciwr
- Ased ariannol y mae ei bris yn gysylltiedig â mynegai diffiniedig (ee, FTSE-100) neu gyfradd llog (ee, Cyfradd Banc).
- Treth Enillion Cyfalaf (CGT)
- Y dreth a godir ar yr elw a wneir ar werthu asedau (ee, ail gartrefi) yn y DU.
- Y flwyddyn (y.f.)
- Y flwyddyn.