11 Crynodeb o Sesiwn 6
Rydyn ni wedi trafod digonedd o bethau i gnoi cil arnynt yn y sesiwn hon.
Mae gwneud yn siŵr bod gennych chi gynllun da ar gyfer pensiwn neu ffynonellau incwm eraill yn hanfodol er mwyn cael ymddeoliad braf. Yn ddelfrydol, dylech chi ddechrau cynllunio yn fuan yn eich bywyd fel oedolyn, oherwydd gallai gadael hynny tan yn nes ymlaen olygu bod risg na fyddwch chi’n cronni digon o gyllid ar gyfer pensiwn digonol.
Er bod pensiwn y wladwriaeth yn fan cychwyn i’ch incwm targed ar gyfer ymddeol, bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hunain er mwyn eich galluogi chi i gael y ffordd o fyw yr hoffech chi ei chael ar ôl rhoi'r gorau i weithio.
Yn y sesiwn hon, rydych chi wedi edrych ar y gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn sydd ar gael yn y DU, yn ogystal â ffyrdd eraill o gael arian parod yn ystod eich ymddeoliad, fel rhyddhau ecwiti. Rydych chi hefyd wedi gweld bod amryw o reolau treth yn berthnasol i bensiynau – ac mae hyn ar ei ben ei hun yn rheswm da i ystyried defnyddio cynghorydd ariannol i’ch tywys drwy’r opsiynau sydd ar gael i chi o ran pensiwn.
Y newyddion da yw bod pobl yn y DU wedi bod yn byw bywydau hirach yn ystod y degawdau diwethaf. Mae mwynhau bywyd hirach yn golygu ei bod yn hanfodol eich bod yn cynllunio eich pensiwn yn drylwyr a’ch bod chi ddim yn oedi cyn gweithredu i roi'ch cynllun ar waith.
Transcript: Fideo 3 Crynodeb o Sesiwn 6
Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.
Transcript: Clip Sain 3 Crynodeb o Sesiwn 6
MSE a dolenni eraill
- Os ydych chi eisiau asesu eich sefyllfa o ran pensiwn, dilynwch y ddolen hon i gyfrifiannell pensiwn Money Advice Service (MAS) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
- Os hoffech chi gael gwybod mwy am gredyd pensiwn y wladwriaeth, dilynwch y ddolen hon i'r prif bwyntiau ar gyfer cynilo pensiwn ar wefan MoneySaving Expert.
- Os hoffech chi gael gwybod mwy am beth i’w ystyried pan fyddwch chi’n dewis cynghorydd ariannol, ewch i wefan MoneySavingExpert.
- Os hoffech chi gael gwybod mwy am y farchnad rhyddhau ecwiti, dilynwch y ddolen hon i wefan MoneySavingExpert.
- I gael gwybod mwy am Gredyd Pensiwn, dilynwch y ddolen hon: MoneySavingExpert a Chredyd Pensiwn.