Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Incwm a threthi

Mae dwy ochr i gyllidebu – cyfrifo incwm ac amcangyfrif gwariant.

Mae’r ochr incwm fel arfer yn haws i lawer ohonom, oherwydd yr arian rydyn ni’n ei gael gan ein cyflogwyr neu drwy fudd-daliadau’r llywodraeth yw hwn.

Mae bod yn hunangyflogedig neu fod â mwy nag un ffynhonnell incwm yn gallu gwneud cyllidebu’n anodd, oherwydd mae’n debygol y bydd ansicrwydd ynghylch faint o arian y byddwch chi’n ei ennill yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan olygu y bydd ychydig mwy o waith dyfalu yn eich cyllideb.

Ffotograff o gwpl ifanc yn astudio gwaith papur, gyda gliniadur ar agor ar ‘ynys’ mewn cegin, yw’r ddelwedd.
Ffigur 1 Mynd i'r afael â chyllid yr aelwyd

Wrth ymgorffori eich incwm yn eich cyllideb, mae angen i chi ganolbwyntio ar incwm net. Dyma’r incwm rydych chi’n ei gael ar ôl i dreth a didyniadau eraill gael eu tynnu o’ch cyflog (sef eich incwm gros).

Os ydych chi’n gyflogedig, mae'r didyniadau hyn yn cael eu gwneud i chi ac yn cael eu nodi ar eich slip cyflog misol. Os ydych chi’n hunangyflogedig neu’n gontractwr, bydd angen i chi ymgorffori treth a didyniadau eraill eich hun, neu gyflogi cyfrifydd i wneud hynny i chi.

Ond hyd yn oed os yw’r didyniadau hynny’n cael eu gwneud i chi, mae’n bwysig eich bod yn eu deall er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn. Felly, yn y cam nesaf, byddwch yn edrych ar y ddau brif ddidyniad sy’n cael eu tynnu o incwm gros – treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.