Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Beth yw cwrs â bathodyn?

Tra byddwch yn astudio Addysgu ar-lein, bydd gennych yr opsiwn i weithio tuag at ennill bathodyn digidol.

Mae cyrsiau â bathodyn yn rhan allweddol o genhadaeth y Brifysgol Agored i hyrwyddo lles addysgol y gymuned. Mae’r cyrsiau hefyd yn ffordd arall o’ch helpu i symud ymlaen o ddysgu anffurfiol i ffurfiol.

I gwblhau cwrs, bydd angen i chi neilltuo oddeutu 24 awr i astudio, dros gyfnod o oddeutu 8 wythnos. Fodd bynnag, gallwch eu hastudio ar unrhyw adeg, ac ar gyflymder sy’n gweddu i chi.

Mae’r holl gyrsiau â bathodyn ar gael ar wefan OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] y Brifysgol Agored ac ni chodir tâl am eu hastudio. Maen nhw’n wahanol i gyrsiau’r Brifysgol Agored oherwydd ni fyddwch yn cael cymorth gan diwtor. Ond fe gewch adborth defnyddiol o’r cwisiau rhyngweithiol.

Beth yw bathodyn?

Mae bathodynnau digidol yn ffordd newydd o ddangos ar-lein eich bod wedi ennill sgìl. Mae ysgolion, colegau a phrifysgolion yn gweithio gyda chyflogwyr a sefydliadau eraill i ddatblygu bathodynnau agored sy’n helpu dysgwyr i gael cydnabyddiaeth am eu sgiliau, ac i helpu cyflogwyr i adnabod yr ymgeisydd iawn ar gyfer swydd.

Mae bathodynnau’n dangos eich gwaith a’ch cyflawniad ar y cwrs. Gallwch rannu eich cyflawniad gyda ffrindiau, teulu a chyflogwyr, ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae bathodynnau’n gymhelliad gwych, gan eich helpu i gyrraedd diwedd y cwrs. Yn aml, bydd ennill bathodyn yn rhoi hwb i’ch hyder yn y sgiliau a’r galluoedd sy’n sail i astudio’n llwyddiannus. Felly, dylai cwblhau’r cwrs hwn eich annog i feddwl am ddilyn cyrsiau eraill.