Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Pleidiau gwleidyddol

Llafur Cymru

""
  • Mewn brawddeg: Plaid sosialaidd i'r chwith o'r canol sydd wedi bod yn rym dominyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru ers canrif.
  • Llwyddiant etholiadol: Llafur Cymru sydd wedi ennill bron pob etholiad yng Nghymru ers 100 mlynedd ac sydd wedi arwain pob un o lywodraethau Cymru ers datganoli, gan ennill rhwng 26 a 30 o 60 o seddau'r Senedd.
  • Cadarnleoedd gwleidyddol: Yr etholaethau ôl-ddiwydiannol yng Nghymoedd y de a gogledd Cymru.
  • Cyd-destun: Llywodraeth Lafur a bwysodd am ddatganoli yng Nghymru ar ddiwedd y 1990au. Yn wahanol i Lafur yr Alban, mae cangen y blaid yng Nghymru wedi ceisio ymbellhau oddi wrth ei phlaid gyfatebol yn San Steffan. Cyfeiriodd Rhodri Morgan at hyn fel ‘dŵr coch clir’ mewn araith yn 2002.

Plaid Cymru

""
  • Mewn brawddeg: Plaid genedlaetholgar i'r chwith o'r canol sydd â'r nod pennaf o sicrhau annibyniaeth i Gymru.
  • Llwyddiant etholiadol: Daeth uchafbwynt etholiadol y blaid yn 1999 pan enillodd 17 o seddau, gan syrthio i 11 yn 2011. Yn 2007, ffurfiodd Lywodraeth Cymru'n Un gyda'r blaid Lafur.
  • Cadarnleoedd gwleidyddol: Ardaloedd Cymraeg eu hiaith, ardaloedd gwledig yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru.
  • Cyd-destun: Yn wahanol i'r pleidiau eraill, etholiadau'r Senedd yw blaenoriaeth bennaf Plaid Cymru, gydag etholiadau Senedd y DU yn eilradd.  Dim ond ar gyfer etholiadau yng Nghymru y mae Plaid Cymru yn sefyll. Mae'n chwaer-blaid i Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP), er nad yw hyn yn fwy na chydweithrediad anffurfiol mewn gwirionedd.

Ceidwadwyr Cymreig

""
  • Mewn brawddeg: Plaid unoliaethol i'r dde o'r canol.
  • Llwyddiant etholiadol: Nid yw erioed wedi arwain Llywodraeth Cymru er bod nifer y seddau y mae'n eu hennill yn etholiadau'r Senedd wedi cynyddu o 9 yn 1999 i 14 yn 2016.
  • Cadarnleoedd gwleidyddol: Mae'n tueddu i wneud yn dda mewn etholaethau cefnog rhannol wledig.
  • Cyd-destun: Er gwaethaf ei hamheuon cychwynnol ynghylch datganoli, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cryn lwyddiant yn y Senedd, gan ddod yn ail yn 2011 a threchu Plaid Cymru fel yr ail blaid fwyaf yn 2016, ar ôl i sawl aelod gefnu ar y blaid.  Un o'r prif heriau sy'n ei hwynebu ym Mae Caerdydd yw ymgysylltu mewn modd adeiladol heb golli ei chanran uchel o gefnogwyr sy'n amheus ynghylch datganoli.

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

""
  • Mewn brawddeg: Plaid ryddfrydol sydd o blaid datganoli a ffederaliaeth.
  • Llwyddiant etholiadol: Llwyddodd y blaid i gynnal presenoldeb sefydlog o ryw chwe sedd dros bedwar etholiad cyntaf y Cynulliad, ond gwelwyd y nifer hwn yn syrthio i ddim ond un sedd yn 2016. Yn etholiad 2016, gwelwyd yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams, yn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Addysg. Gwasanaethodd y blaid hefyd fel partner iau mewn clymblaid â Llafur rhwng 2001 a 2003.
  • Cadarnleoedd gwleidyddol: Mae'r blaid wedi elwa ar y system rhestr, gan ennill digon o bleidleisiau yn y rhan fwyaf o etholaethau i ennill sedd ranbarthol.
  • Cyd-destun: Yn ôl y blaid, hi sydd â'r gwreiddiau dyfnaf o blith unrhyw blaid wleidyddol yng Nghymru, gyda rhyddfrydiaeth yng Nghymru yn deillio'n ôl i'r 19eg ganrif. Fodd bynnag, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol fel petai'n colli grym yng ngwleidyddiaeth Cymru, gan ei chael hi'n anodd ymdopi â chanlyniadau clymblaid 2010 â'r Ceidwadwyr yn San Steffan a chynnydd UKIP, a gipiodd y seddau rhestr oddi wrthi.

UKIP

""
  • Mewn brawddeg: Plaid i'r dde o'r canol, o blaid Brexit ac yn erbyn datganoli.
  • Llwyddiant etholiadol: Ni chafodd y blaid ei chynrychioli yn y Senedd tan iddi ennill saith sedd ranbarthol yn etholiad 2016. Collodd pob un o’r seddi hyn yn etholiad 2021.
  • Cadarnleoedd gwleidyddol: Enillodd y blaid seddau ar bob rhestr ranbarthol yn 2016, ond cafodd gefnogaeth benodol yn ne ddwyrain Cymru.
  • Cyd-destun: Gwelwyd cryn anhrefn yng ngrŵp UKIP yn 2016, gyda nifer o’r aelodau’n cefnu ar y blaid. Erbyn diwedd y tymor, dim ond ei chyn arweinydd, Neil Hamilton, oedd yn eistedd fel aelod o UKIP, ar ôl i eraill adael i ymuno â Phlaid Brexit neu Blaid Diddymu’r Cynulliad. Er gwaethaf pleidleisio addawol ar gyfer Diddymu cyn etholiad 2021, ni enillodd yr un o'r grwpiau hyn seddi yn y chweched Senedd.

Aelodau annibynnol

Bu nifer o aelodau annibynnol yn Senedd Cymru, yn enwedig yn y bumed sesiwn. Erbyn etholiad 2021, roedd chwech o’r 60 o ACau a etholwyd yn etholiadau 2016 yn sefyll fel aelodau annibynnol. Roedd dau ohonynt – Neil McEvoy a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas – yn gyn aelodau o Blaid Cymru. Roedd y pedwar arall yn wreiddiol yn rhan o grŵp ansefydlog iawn UKIP / Plaid Brexit. Mewn sesiynau blaenorol, roedd ACau yn cynnwys Trish Law a John Marek wedi dychwelyd fel aelodau etholaethau, yn dilyn anghydfodau â Llafur.

Crynodeb:

Yn fras, mae Llafur Cymru sosialaidd i raddau helaeth wedi dominyddu’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru ers canrif. Mae Plaid Cymru cenedlaetholgar a’r Ceidwadwyr Cymreig yn ail pell. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli tir. Cafodd saith aelod o UKIP eu hethol yn ACau yn 2016, ond ni wnaeth y grŵp hwn bara. Mae gan y Senedd nifer o aelodau annibynnol, yn aml o ganlyniad i gefnu ar bleidiau.