Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Y setliad datganoli sy'n datblygu

Fel y byddwch yn gweld yn adran gyntaf y cwrs hwn, cafodd y setliad datganoli yng Nghymru ei drawsnewid yn ystod y ddau ddegawd yn dilyn refferendwm 1997.

Wrth i chi weithio drwy’r cwrs hwn, byddwch yn dod i ddeall y camau hyn yn llawer gwell.

Pum cam bras datganoli:

  • datganoli gwleidyddol (1964-1999)
  • datganoli gweithredol gyda phwerau deddfu eilaidd (1999-2007)
  • datganoli gweithredol gydag uwch bwerau deddfu eilaidd (2007-2011)
  • datganoli deddfwriaethol o dan fodel ‘rhoi pwerau’ (2011-2018)
  • datganoli deddfwriaethol o dan fodel ‘cadw pwerau’ (2018-)

Mae pwerau deddfu sylfaenol yn cyfeirio at y gallu i ddrafftio a datgan deddfwriaeth heb droi at ddeddfwriaeth arall. Dechreuodd y Cynulliad fel corff â phwerau deddfu eilaidd (gallai ofyn am i ddeddfwriaeth gael ei phasio yn San Steffan) ond daeth yn ddeddfwrfa sylfaenol (yn rhydd i wneud ei chyfreithiau ei hun o fewn meysydd polisi penodol) yn dilyn refferendwm yn 2011.

Ystyr model rhoi pwerau yw lle y caiff deddfwrfa wneud newidiadau mewn nifer o feysydd diffiniedig. Erys popeth arall wedi’i gadw’n ôl. Ystyr model cadw pwerau yw lle na chaiff Cynulliad wneud newidiadau mewn nifer o feysydd diffiniedig ond lle mae ganddo’r rhyddid i weithredu lle nad oes mater a gedwir n ôl. Roedd gan y Cynulliad fodel rhoi pwerau ar ddechrau datganoli ond trodd hwn yn fodel cadw pwerau yn 2014.

Ystyrir y ddau newid hyn yn fanylach yn ystod y cwrs hwn.