2.1 Cyn-1979
Ffurfiwyd yr undod rhwng Cymru a Lloegr yn 1535 pan ddaeth y ddwy wlad yn un wladwriaeth. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd awydd am annibyniaeth i Gymru, dan arweiniad y Rhyddfrydwyr ac, yn ddiweddarach, Plaid Cymru. Mewn ymateb i hyn, dechreuodd Llywodraeth y DU drosglwyddo rhywfaint o reolaeth weinyddol i ‘adrannau Cymru’ yn y Bwrdd Addysg (1909) a’r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth (1919). Erbyn 1940, Bwrdd Iechyd Cymru oedd yn gyfrifol am dai, dŵr a gwasanaethau llywodraeth leol eraill.
Yn 1964, penodwyd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru a chrëwyd y Swyddfa Gymreig flwyddyn yn ddiweddarach, gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a San Steffan. Yn wreiddiol, roedd y Swyddfa Gymreig yn gyfrifol am gynllunio trefi, tai, dŵr a charthffosiaeth, llywodraeth leol, ffyrdd a rhai agweddau ar gynllunio economaidd. Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd yn goruchwylio'r broses o gyflawni polisïau a osodwyd gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys iechyd ac addysg, yng Nghymru. Dros amser, ehangodd ei gylch gwaith.