2.3 Refferendwm 1997
Er bod y canlyniad yn bendant, ni ddiflannodd y syniad o ddatganoli.
Drwy gydol y 1980au a dechrau'r 1990au, gwelwyd gwleidyddiaeth anghydnaws yng Nghymru a'r Alban, gyda'r ddwy wlad yn ethol ASau Llafur yn bennaf, a llywodraeth Geidwadol dan arweiniad Margaret Thatcher oedd mewn grym yn San Steffan.
Mewn ymateb i hyn, aeth yr wrthblaid Lafur ati i ystyried posibiliadau datganoli ymhellach. Arweinydd Llafur, John Smith, aeth ar drywydd hyn i ddechrau, gyda'i olynydd, y Prif Weinidog Llafur, Tony Blair, yn ymgymryd â'r gwaith wedi hynny.
Cydnabu Blair wedi hynny nad oedd yn ddatganolwr brwd ond y byddai wedi bod yn wleidyddol anodd cefnu ar y safbwynt hwn. Aeth i'r afael â'r pwynt hwn mewn cyfweliad â'r Institute for Government, gan nodi 20 mlynedd o ddatganoli:
Diben datganoli oedd sicrhau setliad newydd rhwng rhannau cyfansoddol y DU er mwyn dod â phenderfyniadau'n agosach at y bobl a oedd yn meddu ar ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Ac yn wleidyddol, hefyd, osgoi bygythiad mwy ymwahaniad ... dyma oedd safbwynt sefydledig y Blaid Lafur [pan benodwyd Blair yn arweinydd Llafur], ond mewn gwirionedd, roeddwn o'r farn ei fod yn briodol mewn egwyddor ac yn angenrheidiol yn wleidyddol. A chyn i mi ddod yn Arweinydd Llafur, roedd yn amlwg mai dyna oedd safbwynt cyson y Blaid Lafur. Felly, yn syml, byddai wedi bod yn anodd newid y safbwynt hwnnw hyd yn oed petawn i am wneud hynny, ond roeddwn wedi fy argyhoeddi mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud ac mai cyfres o geisiadau aflwyddiannus i ddatganoli oedd y 100 mlynedd blaenorol. Ac roedd yn bwysig ein bod yn llwyddo, neu fel arall, gallwn ragweld sefyllfa, yn enwedig yn yr Alban, lle na fyddai modd atal y gefnogaeth dros annibyniaeth. Ac rwy'n dal i gredu y bu'n angenrheidiol atal y gefnogaeth honno yn y bôn, er ei bod yn ddadl barhaus p'un a ddylai'r Alban geisio annibyniaeth lawn ai peidio
Aeth y Blaid Lafur ar drywydd cynigion ar gyfer datganoli mewn dwy ddogfen bolisi: Shaping the Vision yn 1995 a Preparing for a New Wales yn 1996. Gwelwyd cynnydd cyflym. Yn dilyn buddugoliaeth ysgubol Tony Blair a'r Blaid Lafur ar 2 Mai 1997, cyflwynwyd Bil Refferendwm (Cymru a'r Alban) i Dŷ'r Cyffredin ar 15 Mai 1997. Ar 22 Gorffennaf 1997, cyhoeddwyd cynigion ar gyfer Cynulliad Cymreig ym mhapur gwyn Llais dros Gymru.
Gweledigaeth Llais dros Gymru oedd corff etholedig o 60 o aelodau wedi'u hethol o dan y System Aelodau Ychwanegol. Cafodd ei roi i bleidlais ledled Cymru lai na deufis yn ddiweddarach.
Gweithgaredd 2 Refferendwm (1997)
Cynhaliwyd y refferendwm ar 18 Medi 1997. Edrychwch ar y deunyddiau ymgyrchu hyn ar gyfer y ddwy ochr.
Sut fyddech chi'n pleidleisio y tro hwn? Gwnewch eich penderfyniad, yna datgelwch y drafodaeth isod i ddarganfod y canlyniadau.
Gadael sylw
A ydych yn cytuno y dylid cael Cynulliad Cymru fel y cynigiwyd gan y Llywodraeth? | ||
---|---|---|
Ymateb | Pleidleisiau | % |
Yr wyf yn cytuno y dylid cael Cynulliad i Gymru | 559,419 | 50.30% |
Nid wyf yn cytuno y dylid cael Cynulliad i Gymru | 552,698 | 49.70% |