2.4 Pleidlais agos iawn
Pleidleisiwyd dros Gynulliad Cymreig o drwch blewyn – 0.3% neu 6700 o bleidleisiau gan ychydig dros 50% o'r etholwyr. Er mwyn gosod hyn yn ei gyd-destun, mae hynny bron yr un faint â phoblogaeth pentref Sandycroft yn Sir y Fflint.
I'r gwrthwyneb, yn yr Alban, lle y cynhaliwyd etholiad bythefnos ynghynt, cafwyd pleidlais mwyafrif o 74% gan 60% o'r etholwyr.
Arweiniodd y bleidlais agos iawn hon at anawsterau o'r cychwyn cyntaf. Yn wahanol i gydweithwyr yn yr Alban, ni allai llunwyr setliad datganoli cynnar Cymru ddangos canlyniad trawiadol na phendant i ysgogi newid. Dim ond brwydro ymlaen yn raddol y gallent ei wneud.
Fel y mae Martin Shipton yn ei ddadlau yn ei lyfr ar ddegawd cyntaf datganoli yng Nghymru, ‘Poor Man’s Parliament’, daeth Cymru yn israddol i'r cyrff a gynigiwyd ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. Priodolodd hyn i'r gwrthwynebiad ymhlith ASau Llafur Cymru i'r syniad o ddatganoli.
The brakes were well and truly applied, and the message was clear: this would be an inferior body that barely deserved to be designated as a legislature.
Mewn gwirionedd, roedd refferenda 1997 ac 1979 yn gofyn yr un peth, sef a ddylai fod Cynulliad etholedig i gynrychioli buddiannau Cymru. Serch hynny, roedd yr iaith a ddefnyddiwyd yn y cwestiynau yn wahanol iawn. Ydych chi'n credu bod hyn wedi effeithio ar y canlyniad?
Yn ôl y Comisiwn Etholiadol – y corff sy'n gosod y safonau o ran y ffordd y dylid cynnal etholiadau a refferenda – rhaid i'r cwestiynau a ofynnir i bleidleiswyr fod yn glir, yn syml ac yn niwtral. Gall natur y cwestiwn ddylanwadu ar y canlyniad. Yn ôl Matt Qvortrup, Athro Gwyddorau Gwleidyddol Cymhwysol ym Mhrifysgol Coventry, gall cwestiynau hir achosi i bleidleiswyr deimlo'n amheus. Dywed hefyd fod natur ac amseru'r ymgyrch yn debygol o fod yn fwy arwyddocaol na geiriad y cwestiwn. Mae ymgyrch gadarnhaol fer a gynhelir yn fuan ar ôl buddugoliaeth etholiadol yn fwy tebygol o gael ei hennill gan y llywodraeth mewn grym.