2.5 Creu Cynulliad newydd
Yn dilyn y bleidlais dros Gynulliad Cymreig yn 1997, aethpwyd ati o ddifrif i lunio'r rheolau a fyddai'n rheoli datganoli yng Nghymru. Yn wahanol i'r Alban, lle bu cynigion ar gyfer Senedd yr Alban yn cael eu trafod mewn confensiwn cyfansoddiadol ers sawl blwyddyn, lluniwyd y cynigion ar gyfer y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru mewn cyfnod cymharol fyr.
Nododd Papur Gwyn Llafur, Llais dros Gymru, y modd y byddai'r Cynulliad 60 aelod Cymreig yn ymgymryd â'r swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Byddai'r Cynulliad yn cael ei arwain gan bwyllgor gweithredol o gadeiryddion nifer o bwyllgorau pwnc.
Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol, dechreuodd gwaith ar Fil Llywodraeth Cymru 1998. Roedd y cynigion yn y Bil hwn ychydig yn wahanol eto. Cyflwynodd y Bil gynigion i Brif Ysgrifennydd arwain pwyllgor gweithredol. Yr enw ar y corff etholedig fyddai'r "Cynulliad Cenedlaethol" Yn anarferol, ni ragwelwyd y byddai'r weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn endidau ar wahân ond yn hytrach y byddent yn un 'corff corfforaethol' a fyddai'n gwneud is-ddeddfwriaeth neu orchmynion mewn meysydd datganoledig. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol yn cael ei gwneud yn San Steffan mewn meysydd datganoledig a meysydd a gadwyd yn ôl.
Nododd y Bil hefyd y broses ar gyfer ethol 60 o Aelodau Cynulliad Cymru: 40 mewn etholaethau a oedd yn rhannu ffiniau â San Steffan a 20 o ACau rhanbarthol i'w hethol drwy system o gynrychiolaeth gyfrannol, neu ddull D’Hondt.
Byddai'r cyllid ar gyfer y Cynulliad yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy system 'grantiau bloc' wedi'u dyrannu ar sail fformiwla Barnett. Gallwch ddarllen fwy am hyn yn nes ymlaen yn y cwrs.
Yn bwysig, roedd y Bil hefyd yn cynnwys cymal a oedd yn caniatáu ar gyfer trosglwyddo rhagor o bwerau yn y dyfodol, gan awgrymu bod yr awduron yn credu y byddai'r broses yn un barhaus.
Darllen Pellach - cynllunio datganoli yng Nghymru
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, yn myfyrio ar y broses o gynllunio datganoli yng Nghymru mewn darlith wedi'i chynnal gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
Gweler yr adran Darllen Pellach i gael dolen i'r fideo hwn.
Cafodd y Bil ei basio ar 31 Gorffennaf 1998. Cynhaliwyd etholiadau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol ar 6 Mai 1999, gyda Llafur yn cael ei hethol yn ffurfiol fel y blaid fwyaf. Ar 12 Mai 1999, cyfarfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf, gyda'r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn y gadair. Ar 1 Gorffennaf 1999, daeth y Swyddfa Gymreig yn Swyddfa Cymru.