Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.6 Gwleidyddiaeth newydd

Ar ddiwedd clip y BBC yn adran 2.5, mae'r gohebydd David Cornock yn cyfeirio at ‘new politics’. Defnyddiwyd yr ymadrodd hwn ar ddechrau datganoli i ddisgrifio'r ffyrdd gwahanol y byddai pethau'n cael eu gwneud yn y sefydliadau newydd yng Nghymru a'r Alban. Yn fras, roedd yn cyfeirio at ffordd fwy syml, agored ac ystyriol o deuluoedd o weithio. Roedd yn mynd i'r groes i arferion hen ffasiwn, cyfyngedig a defodol San Steffan

Gweithgaredd 3 Cymharu Seneddau

Cymharwch luniau o Senedd Cymru a Senedd y DU. Ar beth rydych chi'n sylwi?

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 7 Cymharu Seneddau: Cymru (y llun uchaf) a’r DU (y llun isaf)

Gadael sylw

Rhoddwyd cryn sylw i ba mor dryloyw y byddai adeiladau'r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban. Wrth arddangos yr adeilad ar eu gwefan, dywedodd y penseiri Rogers Stirk Harbour + Partners y canlynol am y Cynulliad:

employed the idea of openness and transparency as the driving factor in the design for the National Assembly for Wales, Cardiff. The building was conceived not to be an insular, closed edifice but a transparent envelope, looking outwards to Cardiff Bay and beyond, making visible the inner workings of the Assembly and encouraging public participation in the democratic process.

(RSHP, d.d.)

Crynodeb:

Cafodd rhywfaint o bŵer gwleidyddol ei drosglwyddo o San Steffan i Gymru yn raddol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Cafodd ymgais i sefydlu sefydliadau gwleidyddol ar wahân ei wrthod yn 1979, ond ei basio o drwch blewyn yn 1997. Cafodd strwythurau cychwynnol sefydliadau Cymru eu dyfeisio'n gyflym iawn.