3 Y Cynulliad Cyntaf (1999-2003)
Aeth y Cynulliad newydd i drafferthion gwleidyddol yn fuan.
Yn dilyn sgandal personol amheus, cafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies ei orfodi i ymddiswyddo yn 1998. Cafodd ei olynu gan Alun Michael, a ddaeth yn ddewis cyntaf Tony Blair ar gyfer swydd y Prif Ysgrifennydd dros AC mwy poblogaidd Gorllewin Caerdydd, Rhodri Morgan. Ar ôl ennill 28 o seddau ym mis Mai 1999, cafodd Michael ei orfodi i ffurfio llywodraeth leiafrifol. Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, wynebodd bleidlais o ddiffyg hyder ynghylch ei bolisi cyllido. Ac yntau'n ansicr ynghylch ei allu i osgoi cerydd, ymddiswyddodd Michael a chafodd Rhodri Morgan ei benodi'n Brif Weinidog Cymru.
Cymerodd y sefydliad amser i gael ei gefn ato. Fel y mae Martin Shipton (2011) yn ei nodi yn ei gofnod manwl o ddegawd cyntaf datganoli, bu blynyddoedd cyntaf y Cynulliad yn ansefydlog. Cymerodd amser i gydberthnasau â San Steffan sefydlogi, roedd natur y setliad datganoli yn dal i fod yn annelwig iawn, a bu sawl sgandal a danseiliodd hygrededd y sefydliad newydd.
Roedd tair prif feirniadaeth o ddatganoli yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd cynnar, sef:
- Strwythur: Roedd gan y Gweinidogion a phwyllgorau pwnc y Cynulliad rai pwerau gwneud penderfyniadau, gan bylu’r llinellau rhwng datblygu a chraffu ar bolisi. Fel yr ysgrifennodd Rhodri Morgan yn ddiweddarach yn ei hunangofiant: ‘With each Minister being a Member of the Committee that scrutinised his or her work, it was hard for the public to see a clear chain of command and responsibility for decisions’ (Morgan, 2017, t.170)
- Pwerau: Roedd yn rhaid i’r Cynulliad ofyn am amser deddfwriaethol yn San Steffan er mwyn pasio unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol. Nid oedd hyn yn digwydd yn aml iawn.
- Cyllid: Roedd y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r arian a oedd ar gael i Gymru yn seiliedig ar y boblogaeth yn hytrach nag angen. Ystyriwyd bod hyn yn rhoi Cymru dan anfantais.