4.1 Comisiwn Richard
Cyn i’w dymor cyntaf ddod i ben, sefydlodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan Gomisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Richard, er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r beirniadaethau.
Ar ddechrau 2004, argymhellodd y Comisiwn:
- Y dylid cyflwyno pwerau deddfwriaethol sylfaenol i’r Cynulliad a mabwysiadu model cadw pwerau lle y gallai’r Cynulliad weithredu ym mhob un o’r meysydd nad oeddent wedi’u cadw’n ôl yn benodol ar gyfer San Steffan.
- Dylid gwahanu’r ddeddfwrfa a’r weithrediaeth, gyda’r weithrediaeth yn atebol i’r ddeddfwrfa.
- Er mwyn negyddu dau ‘ddosbarth’ o ACau, dylai pob un ohonynt gael eu hethol drwy’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Yn sgil yr argymhellion hyn, pasiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006). Gwahanodd y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa, rhoddodd bwerau deddfu eilaidd i’r Cynulliad a chynigiodd gyfle am refferendwm pellach ar bwerau deddfu sylfaenol.
Beirniadwyd y Bil am gadw rheolaeth sylweddol yn San Steffan. Serch hynny, daeth yn gyfraith yn 2006 a daeth ei ddarpariaethau i rym ar ddechrau’r trydydd Cynulliad yn 2007.